Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Fel y bydd yr Aelodau'n cofio, hyd yn oed cyn y Bil hwn, roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 eisoes yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â sefyllfa Aelodau Seneddol a etholwyd i'r Senedd ac Aelodau'r Senedd a etholwyd i Dŷ'r Cyffredin. Yng Nghyfnod 2, ychwanegwyd darpariaeth newydd a oedd yn gosod egwyddorion tebyg ar gyfer aelodau awdurdodau lleol ac a oedd yn adlewyrchu iaith y ddarpariaeth bresennol yn Neddf Llywodraeth Cymru. Wrth inni ystyried y darpariaethau hynny, fodd bynnag, nodwyd bod gwelliannau canlyniadol y dylai Senedd y DU fod wedi'u gwneud adeg Deddf Cymru 2017 wedi'u methu, ac felly, o gofio ystyriaeth y Cynulliad o faterion eraill mewn perthynas ag anghymhwyso, mae'r gwelliannau hyn yn manteisio ar y cyfle hwn i gywiro'r agweddau hynny. Ac rwy'n gwahodd y Senedd i gefnogi'r gwelliannau hynny.
Gan droi at welliannau 89, 90 a 91 y Llywydd, mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r rhain. Byddai iddynt yr effaith o atal gweithio dwy swydd, fel y byddai Aelod, dyweder, o Senedd yr Alban, yn gallu sefyll etholiad ar gyfer y lle hwn ond ni châi fod yn Aelod yma. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, ac fel y cydnabu'r Llywydd yn ei sylwadau, roedd y Llywodraeth wedi ystyried gwneud darpariaeth i'r perwyl hwn drwy gyfrwng Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ond rydym yn hapus i gefnogi dadl y Llywydd ei bod yn fwy priodol i hyn ymddangos ar wyneb y ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 73 i 76 y Llywodraeth, a mynegi'r gobaith y byddant hefyd yn cefnogi gwelliannau'r Llywydd yn ogystal.
Mae gwelliannau 25 a 31 David yn ceisio dileu'r darpariaethau a fyddai'n atal cynghorwyr rhag ymgymryd â swydd Aelod Cynulliad ochr yn ochr â'u rôl fel aelodau o brif gynghorau. Nid wyf yn credu ei bod yn briodol i Aelod o'r Senedd allu bod yn aelod o brif gyngor yng Nghymru hefyd. Mae pob cam newydd o'r setliad datganoli wedi cynyddu pwerau'r Senedd, gan gynnwys pwerau, fel y nododd Hefin David yn ei gyfraniad, i bennu'r fframwaith deddfwriaethol ac ariannol ar gyfer awdurdodau lleol. Bu newid sylweddol ers 1999 ac nid yw'r hyn a allai fod yn briodol bryd hynny yn briodol heddiw. Mae sefyllfa bresennol aelodaeth ddeuol yn creu gwrthdaro buddiannau amlwg mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â llywodraeth leol, gan gynnwys ei chyllid cyffredinol fel rhan o broses cyllideb y Senedd. Mae'r Senedd hefyd yn gwneud penderfyniadau eang am swyddogaethau cynghorau, eu systemau pleidleisio a materion strwythurol eraill.
Ar un adeg, barnwyd ei bod yn briodol i Aelodau Seneddol fod yn Aelodau Cynulliad hefyd, ac fel arall. Mae'r amser hwnnw wedi mynd; mae'r lle hwn yn ddeddfwrfa gwbl weithredol a chanddi bwerau ar draws ystod eang o feysydd. Ni allwn ddisgwyl i'n Haelodau ymgymryd â dwy rôl gynrychiadol, gan wneud penderfyniadau ar ran y Senedd tra'n cynrychioli awdurdod lleol ar yr un pryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ddwywaith o'r blaen ar y mater hwn a cheir cefnogaeth i'r cynnig hwn. Yn yr un modd, fel y mae'r Aelodau wedi nodi, cydnabu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y mater yn 2015. Ac er fy mod yn derbyn pwynt David, roedd hefyd yn tynnu sylw at y gwrthdaro posibl o ran buddiannau ac amser a ddôi yn sgil ymgymryd â'r ddwy rôl. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.