Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:27, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Ar ôl taflu sylw roeddwn yn anghytuno'n gryf ag ef atoch, a gaf fi ofyn ichi ymhelaethu ar yr hyn y dywedwyd eich bod wedi'i ddweud wrth Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn Abertawe yn gynharach yr wythnos hon? Mae'n rhywbeth rwy'n ei gymeradwyo. Fe ddywedoch chi:

Nid gwerthu tai cyngor oedd y 'gwendid mawr' gyda Hawl i Brynu o reidrwydd, ond yn hytrach, peidio â chaniatáu i gynghorau ddefnyddio'r elw o'r gwerthiannau hynny i adeiladu rhagor o gartrefi.

Hynny yw, rwy'n cytuno â hynny. Ond onid yw'n profi mai Plaid Geidwadol Cymru oedd yn iawn ar hyd yr amser, mai diwygio'r polisi hawl i brynu nid ei ddiddymu oedd angen ei wneud?