Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Ie. Bydd Paul Davies yn gwybod ein bod wedi bod yn gweithio'n galed iawn i adeiladu llawer mwy o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru; mae cynyddu cyflymder a graddfa'r gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol wedi bod yn flaenoriaeth bwysig i Brif Weinidog Cymru. Ar hyn o bryd, caiff y rhan fwyaf o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru eu hadeiladu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oherwydd, fel y gŵyr, roedd cyfyngiadau ar gyfrifon refeniw tai awdurdodau lleol tan y llynedd. Felly, rydym wedi gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i ddileu'r cyfyngiadau hynny a sicrhau bod y fframweithiau cywir ar waith er mwyn i'r cynghorau eu hunain allu benthyca i adeiladu tai, p'un a ydynt yn dal stoc dai neu beidio.
Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gwneud cyfres o fuddsoddiadau. Hyd yn hyn, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi buddsoddi £1.7 biliwn mewn tai, a £137 miliwn o hwnnw yn y grant tai cymdeithasol, a thros £33 miliwn yn y grant cyllid tai. Ar gyfer rhanbarth y canolbarth a'r de-orllewin, amcangyfrifwn fod yr angen am dai cymdeithasol yn 44 y cant o'r tai newydd sydd eu hangen, felly dylai 44 y cant o'r cartrefi newydd a adeiledir yn rhanbarth canolbarth a de-orllewin Cymru fod yn dai fforddiadwy os ydym am gyrraedd lle mae angen inni fod. Felly, cytunaf yn llwyr â chi fod angen inni gyflymu'r rhaglen honno.
Rydym wedi bod yn buddsoddi £71.5 miliwn o gyllid refeniw dros 29 mlynedd o dan y rhaglen grant tai fforddiadwy i helpu'r awdurdodau tai lleol i adeiladu tai cyngor newydd, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro. Disgwylir i tua 400 o gartrefi cymdeithasol newydd gael eu hariannu'n uniongyrchol drwy'r fenter honno ledled Cymru. Rydym hefyd ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o sicrhau bod 5,000 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Rydym eisoes wedi rhoi £40 miliwn i gynghorau yng Nghymru i helpu perchnogion eiddo i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Yn ddiweddar iawn, gwneuthum ddatganiad yn y Siambr am ddefnyddio'r sector rhentu preifat i gynorthwyo gyda thai cymdeithasol yn y cyfamser wrth inni adeiladu'r cartrefi rydym eu hangen, ac fe'i croesawyd o bob rhan o'r Siambr; rwy'n credu ein bod i gyd ar yr un dudalen ac yn gobeithio bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw.
Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef; mae angen i ni gynyddu cyflymder a graddfa'r gwaith adeiladu. Rydym wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y trefniadau hynny ar waith yn y flwyddyn rydym wedi'i chael i gychwyn ar y gwaith hwnnw. Mae sir Benfro wedi cael ei chyfran lawn o'r grant, fel y mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol, lle bo'n briodol, ar gyfer y trefniadau cynllunio. Yn y cyfamser, rydym yn rhoi cyfres o fesurau interim ar waith.