Perchentyaeth Tai Gwyliau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:56, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf am ddefnyddio'r ymadrodd 'perchentyaeth tai gwyliau', sydd, yn fy nhyb i, yn cwmpasu dau gategori: yr 'ail gartref' y cyfeiriodd y Gweinidog ato, sydd efallai'n cael ei ddefnyddio am ychydig wythnosau o'r flwyddyn yn unig—neu ychydig fisoedd ar y mwyaf efallai—o gymharu ag eiddo sy'n cael ei osod i ystod eang o bobl ar eu gwyliau, yn fwy fel menter fasnachol. Tybed, fel Gweinidog tai, a ydych yn credu bod gwahaniaeth rhwng y ddau fodel gwahanol o ran yr effaith ar ddarpariaeth tai mewn mannau eraill, ac a ydych o'r farn fod un yn fwy deniadol na'r llall, neu a oes un y byddem am ei gymell ai peidio? Os felly, a wnewch chi geisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llunio polisi mewn modd cydgysylltiedig drwy gael trafodaethau priodol gyda'ch cyd-Weinidogion?