Gwasanaethau ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:54, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog, ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn hanfodol fod cyn-filwyr a'u teuluoedd yn cael tai saff a diogel, a thai â chymorth wrth ddychwelyd i fywyd sifil. Nid yw darparu taflenni a chardiau cyngor yn unig yn lleddfu pryderon y Lleng Brydeinig Frenhinol ynglŷn â sut y gall swyddogion tai sy’n darparu’r gefnogaeth angenrheidiol reoli achosion cymhleth o dai am ddim i gyn-filwyr. Ddirprwy Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i awdurdodau tai yn y gweithdrefnau cywir a'r opsiynau sy'n agored i gyn-filwyr yng Nghymru? Diolch.