5. Cynnig i Benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:11, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mewn ymateb i rai o bwyntiau Mark Reckless, cytunodd holl aelodau'r pwyllgor safonau ar benodiad y comisiynydd dros dro hwn. O ran pa mor hir y bydd yn ei gymryd i benodi comisiynydd newydd, mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad eisoes wedi dechrau trafodaethau ynglŷn â'r camau nesaf, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod natur newidiol y rôl ers ei sefydlu yn 2011 yn cael ei hadlewyrchu yn y penodiad sydd i ddod.

Rydych yn gofyn am addasrwydd y comisiynydd dros dro. Mae wedi dal nifer o swyddi uwch yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, yr heddlu a Gwasanaeth Carchardai Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, mae wedi dal nifer o swyddi cyhoeddus, fel prif swyddog etholiadol Gogledd Iwerddon, ac yn fwy diweddar, ef oedd Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon rhwng 2012 a 2017.

O ran y pwyntiau eraill a godwyd gennych ynglŷn â thelerau ac amodau—maent yr un telerau ac amodau ag ar gyfer y comisiynydd safonau blaenorol. Bydd y comisiynydd dros dro yn gyfrifol am barhau â gwaith y comisiynydd blaenorol yn ystyried cwynion a gyflwynwyd i'r swyddfa ac ymchwilio i unrhyw gwynion newydd a gyflwynir dros y cyfnod y bydd yn y swydd.

Ac i orffen ar y pwynt a gododd Gareth Bennett, fel bod yr Aelodau'n ymwybodol, er fy mod yn deall y gallai fod gan Gareth Bennett bryderon am y comisiynydd dros dro, aeth adroddiad y comisiynydd hwnnw i bwyllgor safonau'r Cynulliad a daethpwyd ag ef wedyn i Siambr y Cynulliad hwn a phleidleisiodd mwyafrif o Aelodau'r Cynulliad arno yn y Siambr hon. Diolch yn fawr, Lywydd.