Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:46, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n llinell braidd yn amlwg yr ydym ni'n ei chlywed unwaith eto, ac, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedodd Helen Mary yn ei hymateb oedd cydnabod, mewn gwirionedd, yn dilyn yr ymyrraeth a wneuthum i, y bu effaith gadarnhaol ar y sefydliad. Mae adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC yn cydnabod bod yr arweinyddiaeth newydd sydd ar waith yn bwrw ymlaen â chamau difrifol i fynd i'r afael â'r materion sy'n peri pryder. Ac, o ran pwy mae pobl Cymru yn ymddiried ynddyn nhw i redeg y gwasanaeth iechyd gwladol, edrychaf ymlaen at eu dyfarniad ymhen 18 mis.