Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Dyma fy nhro cyntaf yn ateb y cwestiynau hyn, felly rwy'n credu bod gen i esgus o ran fy mherfformiad. Nid wyf i'n siŵr bod gan yr Aelod gyferbyn yr un esgus, ac rwy'n siomedig na wnaeth ef drafferthu i wrando ar yr ateb a roddwyd i Andrew R.T. Davies. Yn syml, nid yw'n wir, fel y mae'n ei haeru—nid oeddem ni'n teimlo bod angen cyflogi actores. Ni wnaeth fy mhlaid hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai'n gwrando ac yn ymateb i'r wybodaeth a'r ffeithiau sy'n cael eu rhoi.
O ran sylwadau gan staff a sut mae staff yn teimlo am y gwasanaeth iechyd gwladol, a dweud y gwir, mae'r sylwadau gan ein staff yn gadarnhaol o'r Llywodraeth hon, yn sicr o'i gymharu â'r arlwy gwahanol ar draws ein ffin. Mae gennym ni wasanaeth cyhoeddus cadarnhaol, rydym ni'n cymryd o ddifrif y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn staff. Rwyf i wedi buddsoddi'r swm uchaf erioed mewn hyfforddi dyfodol ein gwasanaeth iechyd. Byddwch wedi gweld yr wythnos diwethaf cynnydd o 13 y cant i'r gyllideb ar gyfer staff gofal iechyd yn y dyfodol, y nifer uchaf erioed o nyrsys, bydwragedd a therapyddion yn cael eu hyfforddi, y nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yn dod i'r gwasanaeth yma yng Nghymru. Materion o ffaith yw'r rhain, nid barn, ac, wrth gwrs, pan ddaw i'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn y gwasanaeth iechyd, mae ffigurau heddiw gan Drysorlys y DU yn dangos bod y gwariant ar iechyd yng Nghymru wedi cynyddu'n gyflymach nag yn Lloegr na'r Alban, yn dangos bod y gwariant cyfunol ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Nid oes arnaf angen pregeth gan y blaid gyferbyn ar natur ein hymrwymiad i'n staff, i'n cyhoedd ac i'n gwasanaeth iechyd gwladol.