Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond cynhaliodd Undeb Cenedlaethol Addysg Cymru ei gynhadledd yn ddiweddar yng Nghasnewydd. Yn ystod y gynhadledd, mynegwyd pryderon am y nifer gynyddol o achosion o ymddygiad ymosodol gan ddisgyblion a rhieni tuag at ein hathrawon. Maen nhw wedi awgrymu y dylid arddangos posteri mewn ysgolion yn rhybuddio yn erbyn trais neu fygythiadau yn erbyn staff addysgu. Gweinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad os unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw fath o drais na cham-drin yn erbyn athrawon yn ein hysgolion yng Nghymru?