Plant Mewn Gofal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:29, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rydym i gyd yn cytuno ein bod yn awyddus i weld gostyngiad diogel yn niferoedd y plant sy'n cael eu derbyn i'r system ofal. Ond mae gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â hynny, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon sylweddol ynghylch presenoldeb targed o ran niferoedd. Ac, mewn gwirionedd, dywedodd y Comisiynydd Plant wrth ein pwyllgor ni bythefnos yn ôl nad oedd hi'n cefnogi targed o ran niferoedd, er ei bod hi'n cefnogi'r ymdrechion i leihau'n ddiogel niferoedd y plant mewn gofal. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, yn ogystal â'r gefnogaeth amodol a roddodd y comisiwn i'r camau i leihau nifer y plant mewn gofal, ei fod wedi dweud yn benodol hefyd y dylid cael cefnogaeth gref i raglen ymchwil a fyddai'n sail i ddiwygio cyfiawnder teuluol a gwasanaethau ataliol cysylltiedig. Dylai fod yn nod cyffredinol i leihau nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal a darparu tystiolaeth lawer gwell o effaith yr ymyrraeth ar fywyd teuluol. Fe ddylid datblygu polisi hirdymor sy'n rhoi ystyriaeth ofalus i leihau nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal, a hynny'n dilyn casgliadau'r ymchwil, a'u rhoi nhw ar waith wedyn. Pa sicrwydd a roddwch chi y bydd y Llywodraeth yn cymryd yr agwedd ystyriol honno tuag at bolisi a allai fod yn sensitif ac yn uchel iawn o ran risg?