Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:39, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at bwysigrwydd effaith y newidiadau hyn yn bennaf ar y menywod dan sylw, ond hefyd yn ehangach ar wasanaethau cyhoeddus a'r economi a chymunedau yma yng Nghymru. Fe soniodd yn benodol am waith llawer o'r menywod yr effeithiwyd arnynt yn eu cyfrifoldebau gofalu am eraill, ac fe hoffwn i roi sicrwydd iddo fod effaith y newidiadau hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried. Mae'r gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog, er enghraifft, wedi ei lywio o ran adolygiad Llywodraeth Cymru o rywedd wedi ystyried rhai o'r effeithiau hyn sy'n cael eu disgrifio yn ei gwestiwn. Rwy'n credu ei fod yn rhoi braslun huawdl iawn, os caf i ddweud hynny, o raddau a dyfnder yr anghyfiawnder y mae llawer o'r menywod hyn yn ei wynebu.