Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Nid yw Llywodraeth Cymru ei hunan yn cyhoeddi canllawiau penodol i awdurdodau lleol ar daliadau parcio ceir, ond os oes gan Mohammad Asghar bryderon penodol am y penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod lleol yn ei ardal ef ynghylch taliadau am barcio, yna, fe fyddwn i'n ei annog i godi'r pryderon hynny gyda'r awdurdod lleol ei hun.