3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:04, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Mark Isherwood wedi manteisio ar y cyfle i roi ymateb tri chlinigwr ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar gofnod, ac fe fyddaf i'n siŵr o sicrhau bod y Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o'r pryderon hynny yr ydych chi wedi eu nodi'r prynhawn yma. Fe fyddaf i'n rhoi gwybod iddo ef hefyd am yr alwad am ddatganiad llafar o ran y fframwaith i wella Betsi Cadwaladr.