Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Nid ydym yn cytuno â'r newid yn yr etholfraint, ond mae Mark Isherwood eisoes wedi siarad am y rheini, ac felly byddaf yn canolbwyntio yn fy sylwadau ar feysydd lle rwy'n credu ein bod yn cytuno â'r Llywodraeth, mewn egwyddor o leiaf. Y bleidlais sengl drosglwyddadwy—hoffem weld diwygio etholiadol, ac rwy'n meddwl bod gan y bleidlais sengl drosglwyddadwy lawer o atyniadau, ac mewn gwirionedd rwy'n credu ei bod yn eithaf cyffrous bod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i wahanol awdurdodau lleol fynd eu ffordd eu hunain a gwneud eu dewisiadau eu hunain. Rydym yn cymeradwyo datganoli lleol, a hoffem eich cefnogi yn hyn o beth, er ei bod hi'n amlwg bod risgiau ac ansicrwydd yn perthyn i hyn, a chawn weld sut y bydd yn datblygu. Tybed i ba raddau y mae'r Gweinidog yn disgwyl i gynghorau lleol ddewis hyn. Beth yw ei disgwyliadau? Os yw cynghorau'n dewis y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a yw'r drefn yn debygol o barhau felly? Os oes gennych chi bobl wedi'u hethol o dan y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a fydd hi'n anoddach gwrthdroi'r broses honno nag ydyw yn y lle cyntaf? Yn amlwg, fydd hi ddim yn gwybod yn bendant beth sy'n mynd i ddigwydd, ond rwy'n credu bod rhesymau y mae'n rhaid i ni feddwl amdanynt ynghylch beth fydd y raddfa. Mae gennym ni Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru. A fydd gwaith ychwanegol i'r corff hwnnw, os yw cynghorau yn troi at y bleidlais sengl drosglwyddadwy, i ail-lunio ffiniau wardiau i fod yn fwy priodol ar gyfer y system etholiadol honno, neu a allai fod lle i rai cynghorau gadw at fapiau wardiau presennol, yn enwedig lle mae mwy o wardiau sydd â thri neu bedwar aelod? A gaf i ofyn hefyd beth fydd yn digwydd o ran addysg leol i helpu pobl i ddeall y gallai'r system fod yn wahanol yn eu hardal nhw, a yw plant 16 oed yn gallu pleidleisio mewn ysgolion, neu'n fwy cyffredinol i'r etholwyr, y gallai hyn fod yn ffordd newydd o bleidleisio o'i chymharu â San Steffan a'r Cynulliad?
I symud ymlaen, rwy'n croesawu ymestyn y pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol. Mae'r Gweinidog yn dweud nad oedd hi eisiau efelychu Lloegr, ond onid ai dyma beth rydych chi'n ei wneud yn y maes hwn, dim ond wyth mlynedd yn hwyr? Pan ddaeth y Ddeddf Lleoliaeth i rym yn 2011 yn y DU, ac roedd rhai agweddau'n ymestyn i Gymru yn ogystal ag i Loegr—er enghraifft, credaf fod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y polisi cyflogau uwch—pam na wnaethom ni ar y pryd geisio cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ehangu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol drwy gyfrwng San Steffan? Ac, os felly, pam nad ydym ni wedi ceisio cyfrwng arall ar unrhyw adeg yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf i gyflwyno'r diwygiad hwnnw, sy'n gadarnhaol iawn, rwy'n credu?
A gaf i hefyd ofyn am y cydbwyllgorau corfforaethol? A wyf yn gywir y bydd hyn yn ddewis ychwanegol i gynghorau lleol? Mae gwahanol gynghorau a chyrff eraill wedi dod o hyd i ffyrdd da o weithio, yn rhanbarthol neu ar y cyd yn lleol, a phan yw'r ffyrdd hynny'n gweithio ac wedi bod yn llwyddiannus, a oes gwir angen eu newid? Rwy'n gwybod y bydd y cyrff corfforaethol hyn yn endidau cyfreithiol eu hunain ac yn gallu cyflogi staff, er enghraifft, ac maen nhw'n sicr yn ychwanegiad cadarnhaol i'w cael, ond ai dewis fydd hynny i gynghorau, yn hytrach na rhywbeth a gaiff ei orfodi arnyn nhw?