Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Wel, Llywydd, mae ymgynghoriad pwysig iawn yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, i sicrhau bod y cymwysterau yr ydym ni'n eu cynnig i'n pobl ifanc yng Nghymru yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd, ac yn cyflwyno'r math o gyfranogiad gweithredol mewn dysgu y mae'r cwricwlwm hwnnw wedi'i gynllunio i'w ddarparu. Ymgynghoriad yw hwn, a bydd barn y comisiynydd plant, wrth gwrs, yn cael ei darllen yn ofalus iawn yn rhan o hynny, ac yna byddwn yn dibynnu ar gyngor Cymwysterau Cymru, y corff arbenigol a sefydlwyd at yr union ddiben hwn.