Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:50, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel mae'r paragraff, mewn gwirionedd, ar yr angen am ddiwygio yn union yr un fath. Mae wedi ei dorri a'i ludo o faniffesto 2017. Byddwn i wedi—. O ystyried eich bod chi wedi cyflwyno'r cynllun 20 pwynt hwn—ac mae'n dda cael cyfeiriadau mewn maniffesto, ond byddwn i wedi disgwyl cynnydd, y byddech chi mewn gwirionedd wedi gallu gwneud ymrwymiad maniffesto cwbl bendant i ddiddymu fformiwla Barnett, ac nid ydych chi'n gwneud hynny yn eich maniffestos yng Nghymru nac yn y DU.

Gadewch i ni aros gyda chyllid. Mae eich maniffesto ar gyfer Cymru yn dweud y bydd yr Alban yn cael o leiaf £100 biliwn o adnoddau ychwanegol dros ddau dymor o Lywodraeth Lafur—bydd £10 biliwn yn mynd i gronfa drawsnewid genedlaethol newydd i adeiladu 120,000 o gartrefi newydd yn yr Alban, £6 biliwn arall i ôl-ffitio cartrefi sy'n bodoli eisoes, bydd banc buddsoddi cenedlaethol newydd yr Alban yn cael £20 biliwn i ariannu amrywiaeth eang o brosiectau. Nawr, pe byddai Cymru'n cael ei hariannu ar y raddfa hon, dylem ni ddisgwyl o leiaf £60 biliwn yn ychwanegol, ond nid oes ymrwymiad penodol o'r fath yn eich maniffestos ar gyfer y DU na Chymru. Pam ydych chi mor fanwl ynghylch yr Alban, hyd yn oed yn eich maniffesto ar gyfer Cymru, ac mor dawel ynghylch Cymru?