Deiliannau Academaidd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:33, 26 Tachwedd 2019

Fe gymerodd Cymru ran ym mhrofion PISA am y tro cyntaf yn 2006, a bydd y set ddiweddaraf o ganlyniadau yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Fel rydych chi'n gwybod, roedd sgoriau Cymru yn y cylch diwethaf yn 2015 yn is na sgoriau 2006 ymhob maes, ac roedd canlyniadau Cymru yn y flwyddyn honno hefyd yn is na chanlyniadau'r tair gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, ac yn is na chyfartaledd yr OECD, a hynny yn y tri maes—darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

O edrych ar ddata sydd wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar, yn cynnwys adroddiadau blynyddol Estyn, ydych chi'n gweld arwyddion sy'n eich calonogi chi cyn cyhoeddiad yr OECD ddydd Mawrth nesaf?