Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Bydd trethi'n codi i rai pobl pan fydd y Llywodraeth Lafur nesaf, ar lefel y DU, yn dod i rym ar 13 Rhagfyr. Ac mae hynny'n gwbl gywir a phriodol, oherwydd rydym ni angen dosbarthiad tecach o faich trethiant yn y Deyrnas Unedig. Gwnaeth fy mhlaid ymrwymiad maniffesto yn etholiadau diwethaf y Cynulliad na fyddem ni'n newid cyfraddau treth incwm sydd wedi eu datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a bydd hwnnw'n parhau i fod yn ymrwymiad tan yr etholiad nesaf, pan fyddwn ni, gyda phob plaid wleidyddol arall, yn gallu cyflwyno cynigion newydd mewn maniffestos.