Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:47, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Ie, rydych chi'n iawn, mae'r maniffesto yn cyfeirio at yr adroddiad, ac mae'n defnyddio'r iaith o 'weithio gyda' ac 'ystyried yr adroddiad', ond pam na ellid cael ymrwymiad cwbl gadarn i ddatganoli plismona o leiaf, ac yna mynd ymhellach a chyflawni argymhellion yr adroddiad? Mae hyn yn cefnu, i bob pwrpas, ar eich safbwynt ym maniffesto 2017. Nawr, mae'r papur 'Diwygio ein Hundeb', a gyhoeddwyd gennych yn ddiweddar, yn dweud y dylai fformiwla Barnett gael ei disodli gan, a dyfynnaf:

system newydd sy'n seiliedig ar anghenion cymharol...a dylid gwneud hyn o fewn fframwaith cyllid cynhwysfawr a chyson'.

Nawr, yn eich maniffesto, eich maniffesto ar gyfer 2019, mae cyfeiriad at y ddogfen honno, oes, ond dim ond yng nghyd-destun, unwaith eto, cael ei hystyried gan gonfensiwn cyfansoddiadol. O ran fformiwla Barnett, rydych chi'n cyfeirio at ddiwygiad hirdymor yn unig o'r modd y mae'r DU yn dyrannu gwariant cyhoeddus. Nawr, rydym ni wedi bod yn aros am y diwygiad hirdymor hwnnw, onid ydym, ers cyflwyno fformiwla Barnett gyntaf fel mesur dros dro gan Lywodraeth Lafur Callaghan ym 1978. Nawr, a allwch chi ddweud pa un a yw eich plaid yn ymrwymo'n bendant i ddiddymu fformiwla Barnett, ac, os felly, erbyn pa ddyddiad?