Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:12, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Un o gyfrifoldebau'r comisiwn trafnidiaeth hwn yw cyflwyno argymhellion ar gyfer gweithredu llwybr carlam i fynd i'r afael â phroblemau difrifol tagfeydd a diogelwch ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau y bydd gwaith i weithredu unrhyw argymhelliad o'r fath yn dechrau cyn gynted â phosibl ac na fydd yn rhaid iddyn nhw aros tan y bydd y comisiwn yn llunio ei adroddiad terfynol ddiwedd y flwyddyn nesaf? Diolch.