Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:56, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, y cwestiwn cyntaf oedd pa un a oes gennym ni ffydd y byddwn ni'n adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod y Cynulliad hwn, a'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'oes'—byddwn yn cyrraedd y ffigur hwnnw, ac rwy'n credu y byddwn ni'n rhagori arno, yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Y rheswm pam nad yw cynghorau wedi gallu adeiladu tai yng Nghymru yw oherwydd y polisïau a ddilynwyd gan y blaid yr oedd ar y pryd yn aelod ohoni ac y gorymdeithiodd drwy lobïau yn Nhŷ'r Cyffredin i'w chefnogi pryd bynnag y câi gyfle.