Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Wel, i egluro, Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn glir iawn bod yna argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn glir iawn bod newid yn yr hinsawdd yn bodoli, ac rydym yn canolbwyntio cryn dipyn ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd hwnnw. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi rhaglen fanwl ac uchelgeisiol ar draws y Llywodraeth o ran yr hyn y byddwn ni'n ceisio ei wneud i sicrhau bod Cymru yn dod yn wlad carbon isel.