Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 26 Tachwedd 2019.
I ddechrau, fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar ehangu'r llwyddiant a gafwyd gan Gyngor Preston o ran defnyddio awdurdod pwrcasu lleol i feithrin cyfoeth lleol. Rydym yn penodi sefydliad partner i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn fawr o werth cymdeithasol caffael. Gyda'i gilydd, fe fyddan nhw'n nodi darparwyr lleol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Ond nid ydym eisiau efelychu dull blaengar Preston o gaffael yn unig, rydym eisiau mynd y tu hwnt i hynny. Wrth inni ehangu, rydym yn anelu at ddatblygu dull sy'n osgoi dadleoli a dull amrwd o gyfrifo anfonebau lleol yn ôl cod post, ac rydym eisiau gweld dull sydd â'r pwyslais ar gefnogi cwmnïau sefydlog ar draws y gadwyn gyflenwi.
Mae'n hen bryd ein bod ni yma yng Nghymru yn achub y blaen eto o ran y dull hwn. Fe allwn ni dynnu sylw at nifer o enghreifftiau lle'r ydym wedi arloesi, er enghraifft y pecyn cymorth Gallu Gwneud ar gyfer tai a ddatblygwyd yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl, a gwaith mwy diweddar ar Swyddi Gwell yn Nes at Adref a gychwynnwyd gan fy nghyd-Weinidog Julie James, gan adeiladu ar waith TUC Cymru.
Roedd Cymru ar y blaen i Preston mewn llawer ffordd, ond mae cynnal yr addewid cynnar wedi bod yn anodd hyd yn hyn. Fe ddylwn i fod yn glir gyda'r Aelodau fy mod i'n pryderu ynghylch capasiti a gallu sectorau cyhoeddus a phreifat Cymru i ymateb i'r her hon, a pha mor gyflym y gallwn ni ysgogi ein hymdrechion. Ond os llwyddwn ni i ehangu a chael mwy o lwyddiant a chynnal y newid hwnnw, y tro hwn, fe allwn ni hawlio bod Cymru yn arwain yn wirioneddol ar lwyfan byd-eang. I'r perwyl hwnnw, o fewn Llywodraeth Cymru, rwyf bellach wedi creu, gyda'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, fwrdd cyflawni trawsadrannol i sicrhau bod ein gwifrau mewnol wedi eu cysylltu.
Rydym yn rhoi cynnig ar ddull newydd ac ni allwn fforddio bod yn ddihyder. Os gadawn ni'r UE ar ddiwedd mis Ionawr gyda chytundeb, neu heb gytundeb fis Rhagfyr nesaf, yna fe fydd economi Cymru yn cael ei tharo gan storm a fydd yn waeth na chwalfa 2008 a'r dad-ddiwydiannu gan Thatcher. Felly, mae angen dull sy'n gallu meithrin cydnerthedd yn ein heconomïau lleol i geisio ymdopi â hynny. Mae pob argyfwng economaidd yn golygu bod menywod yn waeth eu byd, a hynny'n anghymesur, gan atgyfnerthu'r ddadl dros ddull sy'n cefnogi'r economi ddyddiol y mae cymaint o fenywod yn dibynnu arni am waith.
Mae trydedd elfen ein dull ni yn hollbwysig yn hyn o beth: sef cefnogi cwmnïau sefydlog, gan feithrin yr hyn a elwir yn 'ganol coll', a chyfuno'r galw lleol i'n helpu ni i wneud hynny. Fy nod i yw cynyddu nifer y cwmnïau sydd â'u gwreiddiau yn eu heconomïau lleol, gan gynnwys microfusnesau, busnesau bach a chanolig eu maint, mentrau cymdeithasol, mudiadau cydweithredol a grwpiau buddiannau cymunedol sydd, yn y sectorau masnachadwy, â'r gallu i werthu y tu allan i Gymru, ond sydd â'u penderfyniadau wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ym mhob rhan o Gymru i gael gwaith teg.
Yn rhy aml, bydd cwmnïau sy'n tyfu yng Nghymru yn mynd ar goll i ni pan fydd eu sylfaenwyr nhw'n eu gwerthu am arian parod. Drwy ein banc datblygu ni a thrwy Busnes Cymru, rydym eisoes yn gwneud llawer i feithrin a chadw cwmnïau yng Nghymru ac rwy'n gweithio gydag is-grŵp o fwrdd cynghori'r Gweinidog i weld beth yn fwy y gallwn ni ei wneud. Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth gefnogi cwmnïau i dyfu'n gyflym. Mae ein rhaglen i gyflymu twf yn dod â gwerth ychwanegol gwirioneddol i gwmnïau, fel y gwnes i ei ddarganfod wrth gyfarfod—[Anghlywadwy.]—ym Mhorth Tywyn yn fy etholaeth i ddydd Gwener diwethaf, sy'n cael cymorth o dan y cynllun. Mae'n cynhyrchu £17 o fudd i economi Cymru am bob £1 yr ydym ni'n buddsoddi ynddo.
Rydym wrthi nawr yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i ddarparu cymorth amyneddgar hefyd i gwmnïau cynaliadwy sy'n tyfu'n arafach. Ymhen ychydig dros flwyddyn, fe fydd y cyllid yr ydym ni'n ei ddefnyddio i ariannu ein gwasanaethau cymorth Busnes Cymru yn diflannu wrth inni adael yr UE. Rydym yn dal yn aros i glywed gan Lywodraeth y DU pa gyllid, os o gwbl, fel yr addawyd. Ond wrth inni fynd ati i lunio'r fersiwn nesaf o gymorth i fusnesau, fe fyddwn ni'n sicrhau ein bod yn ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd yn sgil ein gwaith ar gefnogi cwmnïau sefydlog yn yr economi sylfaenol.
Dirprwy Lywydd, mae cynnydd da wedi bod hyd yn hyn, ond wrth inni roi'r dull hwn ar waith, mae'n galw am gydberthnasau newydd a ffyrdd newydd o weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth, yn ogystal â rhwng y Llywodraeth, y busnesau a'r cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i sbarduno newid, ond ni ddaw'r budd mawr heb i ni gynghreirio ar gyfer y newid. Mae'n rhaid inni weld gweithio cydgysylltiedig ar draws adrannau'r Llywodraeth a rhwng cyrff cyhoeddus sy'n torri trwy'r gwahanol agendâu a rheolau cyllidebol a all fod yn rhwystrau.
Mae modd elwa ar gaffael, ond mae modd elwa llawer mwy drwy feddwl yn ochrol am y ffordd yr ydym ni'n cydlynu cyllidebau sector cyhoeddus. Ac mae hon yn her i ni gyd ond yn gyfle hefyd, nid yn lleiaf, i arweinyddiaeth leol. Fe gymerodd Cyngor Bwrdeistref Preston ei gamau ei hunan, ac rwy'n dymuno gweld y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hunain yn dangos eu potensial, nid drwy aros i rywun ofyn iddyn nhw, ond drwy ddefnyddio eu partneriaethau lleol grymus i ddod â'r agenda hon yn fwy. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei rhan, ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae'r cymunedau yr ydym i gyd yn bodoli i'w gwasanaethu yn mynnu ein bod yn cael hyn yn iawn. Diolch.