3. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Yr Economi Sylfaenol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:56, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Un o'r meysydd allweddol y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arnyn nhw yw meithrin elfennau bob dydd ein heconomi. Y diwydiannau a'r cwmnïau sydd yno am fod pobl yn bresennol, y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, y cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw, yr ynni yr ydym ni'n ei ddefnyddio a'r gofal yr ydym ni'n ei gael: dyma sylfeini ein heconomi ni. Maen nhw'n gyfrifol am bedair ym mhob 10 swydd, a £1 ym mhob £3 a wariwn ni. Ac maen nhw'n hanfodol i lesiant. Hynny yw, fe fyddai canlyniadau unrhyw darfu arnyn nhw'n mynd y tu hwnt i effeithiau economaidd ac fe fyddai'n tanseilio bywyd diogel a gwaraidd.

Wrth inni deithio tuag at amodau economaidd sy'n fwyfwy heriol, mae ein ffocws ar yr economi sylfaenol yn dwysáu gan mai honno yw'r rhan o'r economi sy'n gallu bod yn fwy cydnerth i wrthsefyll ergydion economaidd allanol. Hyd yn oed pe byddai newid yn yr economi fyd-eang yn peri i gwmni rhyngwladol mawr ddewis peidio â buddsoddi yng Nghymru, fe fyddai'r economi sylfaenol yma o hyd. Ac mae meithrin hyn o fewn ein gallu ni—mae'r dulliau ar gyfer cyflawni hynny wedi eu datganoli ac fe ellir eu defnyddio'n gymharol gyflym.

Mae fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi pennu'r cyfeiriad yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer symud oddi wrth ddull sectoraidd o ddatblygu economaidd tuag at un sy'n canolbwyntio ar leoliad. Mae pwyslais y cynllun ar dwf cynhwysol yn rhoi mwy o bwysigrwydd ar wneud y cymunedau yr ydym ni'n byw ynddyn nhw'n fwy cadarn ac yn fwy cydnerth.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i greu dull o feithrin sylfeini ein heconomïau lleol, gan ganolbwyntio nid yn unig ar ganlyniadau economaidd, ond hefyd ar ansawdd profiad pobl o fywyd bob dydd. Mae hyn yn rhan o fudiad sy'n digwydd mewn dinasoedd a rhanbarthau yn fyd-eang. Yn Barcelona, mae'r ddinas-ranbarth yn datblygu cynllun strategol ar gyfer hanfodion sylfaenol, ac yn Awstria mae gan yr hyn sy'n cyfateb i Gyngres yr Undebau Llafur yn y fan honno ymgyrch sylfaenol o dan y slogan 'Bywyd Da i Bawb'.

Ond Llywodraeth Cymru yw'r gyntaf yn y byd i fabwysiadu dull economi sylfaenol ar lefel genedlaethol. Ac wrth greu dull Cymreig o weithredu'r symudiad hwn tuag at newid, rydym yn canolbwyntio ar dri maes allweddol. Yn gyntaf, arbrofi: rydym wedi creu cronfa her economi sylfaenol o £4.5 miliwn i dreialu ffyrdd o feithrin a gwella'r rhan hon o'r economi. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cyhoeddi 52 o brosiectau arloesol ledled Cymru yr ydym ni'n eu cefnogi, o fwyd a gofal cymdeithasol i adeiladu ac adfywio, a chan ymgeiswyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector. Erbyn hyn, maen nhw'n arbrofi gyda gwahanol ddulliau o weithredu, ac fe fyddwn ni'n creu cymunedau ymarfer cryf ar gyfer ehangu'r hyn sy'n gweithio a dysgu o'r pethau sydd ddim yn gweithio. Ac rwy'n awyddus i gynnwys prosiectau yng nghronfa arloesi Arfor. Mae'r cynlluniau hyn, y cytunwyd arnynt â Phlaid Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb ddiwethaf, yn canolbwyntio ar gefnogi'r Gymraeg drwy gyfrwng yr economi leol, ac maen nhw'n cyd-fynd â dull economi sylfaenol. Felly, mae'n bwysig eu bod nhw'n rhan o'r rhwydweithiau dysgu yr ydym ni'n eu creu.