Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolch i chi unwaith eto. Fe geisiaf i godi'r pwyntiau hynny yn eu trefn ac ailadrodd y pwynt eto bod y gefnogaeth i'r agenda hon wedi dod o bob cwr o'r Siambr, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Ac yn wir, fel y soniais i yn y datganiad, fe ddaeth yr ymrwymiad cychwynnol o £1.5 miliwn ar gyfer cronfa arbrofol yn sgil y trafodaethau a'r cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru. Rwy'n hynod falch fy mod i wedi gallu treblu hynny gyda chefnogaeth y Gweinidog Cyllid a Gweinidog yr economi a'r Prif Weinidog drwy'r cylch cyllideb hwn.