Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. A dim ond i bwysleisio cais rhesymol, os mynnwch chi, y bwrdd iechyd cymuned yn y gogledd, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn dadlau yn erbyn peidio â'i ddileu fel endid ynddo'i hun. Yr hyn y maen nhw'n awyddus i'w wneud yw diogelu'r swyddogaethau y mae'n eu darparu mor dda, mor annibynnol, a'i allu i ymateb, heb rybudd, i bryderon ar lawr gwlad yn y gogledd.