Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn falch o gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil sydd ger ein bron. Fodd bynnag, mae yna feysydd yr hoffem eu gweld yn cael eu hychwanegu, eu diwygio neu eu gwella, a hoffwn grybwyll tri maes penodol.
Fe hoffwn i ddechrau gyda'r ddyletswydd ansawdd. Gweinidog, mae angen mwy o eglurder o ran sut y caiff y ddarpariaeth ansawdd ei mesur. Dywed y datganiad fod y ddyletswydd ansawdd yn un cyffredinol iawn o ran effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd, diogelwch gwasanaethau iechyd a phrofiadau unigolion y darperir gwasanaethau iechyd iddyn nhw, ac rwy'n pryderu y gellid dehongli'r ddyletswydd ansawdd fel un a gafodd ei llunio drwy roi prosesau meintiol ar waith, megis methodoleg sicrwydd ansawdd, ond yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw mesurau meintiol i ategu'r ddyletswydd ansawdd honno: a yw pobl yn teimlo eu bod yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu a'i eisiau? Ydyn nhw'n teimlo'n dda am y peth? Ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel? Ydyn nhw'n teimlo y cânt eu trysori? Ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael gofal da? Mae llawer o randdeiliaid wedi mynegi pryderon ynghylch hyn. Yn wir, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu hunain fod adroddiad blynyddol ar wella ansawdd yn ymddangos yn rheolaeth gymharol wan, ac roedd llawer o randdeiliaid yn teimlo nad yw'r ansawdd a ddisgrifiwyd ar hyn o bryd yn ddigon cadarn. Felly, Gweinidog, byddwn yn gofyn dros y cyfnodau nesaf ein bod yn mynd i'r afael â hyn mewn gwirionedd a chael y maen i'r wal.
O ran y ddyletswydd gonestrwydd, credaf fod hwn yn gam diddorol iawn ymlaen gennych chi, Gweinidog. Hynny yw, gadewch i ni fod yn onest, byddech yn meddwl y byddai ein GIG yn ddigon gonest, ond oherwydd bod gan y rhan fwyaf ohonom ni waith achos sy'n dangos nad yw hynny'n wir, mae angen dyletswydd gonestrwydd arnom ni oherwydd mae'n ymwneud ag ymddiriedaeth a gonestrwydd gyda chleifion, yn enwedig os yw defnyddiwr gwasanaeth wedi dioddef niwed annisgwyl neu anfwriadol a lle y gallai darpariaeth gofal iechyd fod wedi bod yn ffactor yn y canlyniad andwyol hwnnw.
Ac, unwaith eto, Gweinidog, mynegodd rhanddeiliaid bryderon ynghylch sut y caiff y ddyletswydd ei diffinio. A gaiff ei derbyn? Sut fydd yn plethu gyda gofal iechyd darbodus? A fydd yn cysylltu â phrosesau sefydliadol ehangach? Beth am gymesuredd? Beth am hyfforddiant ac integreiddio rhwng iechyd a gofal neu drefniadau partneriaeth eraill, fel meddygon teulu? Pam mae gymaint o oedi ynghylch y ddyletswydd hon o ran sefydliadau? Ble mae'r ddyletswydd unigol? Oherwydd os nad oes unrhyw wers arall i'w dysgu o Gwm Taf, y wers honno yw bod unigolion wedi methu â gweithredu'n agored a thryloyw.
Nid yw'r ddyletswydd ansawdd a'r ddyletswydd gonestrwydd fel y'u disgrifir nhw ar hyn o bryd yn rhoi fawr o fanylion o ran sut y cânt eu mesur, eu monitro a'u hadolygu, ac, a dweud y gwir, nid yw adroddiad blynyddol naill ai yma nac acw. Rwy'n falch iawn, Gweinidog, o glywed y byddwch yn gwneud y canllawiau'n statudol, ond rwy'n credu bod angen inni gael proses gynnwys o ran yr hyn a gaiff ei gynnwys yn y canllawiau hynny. Mae angen ymgynghoriad ac fe hoffwn ichi ein sicrhau y bydd hynny oll yn digwydd er mwyn i'r canllawiau a gyflwynir sy'n rhoi rheidrwydd statudol ar y sefydliadau hyn i ddarparu dyletswydd gonestrwydd a dyletswydd ansawdd fod yn dderbyniol gennym ni y Cynulliad ac i randdeiliaid yn fwy cyffredinol.
Hoffwn droi at gorff llais y dinesydd. Rwy'n cytuno bod angen rhai diwygiadau ar y cynghorau iechyd cymuned presennol. Fodd bynnag, nid ydym ni'n gweld tystiolaeth sy'n ddigon i'n symud i ffwrdd o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig sef bod yn rhaid i gyrff llais y dinasedd fod yn annibynnol. Ac nid dim ond ni a'r sefydliad cynghorau iechyd cymuned presennol sydd, yn amlwg, yn credu y dylent fod yn annibynnol, ond hefyd y saith bwrdd iechyd, y tair ymddiriedolaeth GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, a nifer o sefydliadau eraill sydd hefyd yn awyddus iawn y dylai corff cenedlaethol newydd gael cynrychiolaeth leol.
Gweinidog, mae argymhellion yr adolygiad seneddol yn glir: dylid rhoi lle hollol greiddiol a chanolog i lais y dinesydd yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal. Ac mae eich dyheadau yn 'Cymru Iachach' yn adleisio'r uchelgais hon, ond heb os nac oni bai, nid yw ymgysylltu â'r cyhoedd yn ymwneud â llenwi ffurflenni ond mae a wnelo fo â dod â phobl at ei gilydd lle caiff polisïau eu llunio neu eu hadolygu.
Mae gan gorff llais y dinesydd lawer i'w ychwanegu at y drafodaeth, ar yr amod bod eu canghennau cenedlaethol wedi'u gwreiddio'n gadarn yn y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Mae pryder gwirioneddol y caiff corff llais y dinesydd sydd wedi ei wladoli a'i redeg gan y Llywodraeth, ei staffio gan bobl sy'n amharod i siarad yn ddi-flewyn ar dafod, yn amharod i sefyll dros hawliau pobl, yn amharod i wyro oddi wrth broses y Llywodraeth, yn amharod i herio byrddau iechyd, yn amharod i drin a thrafod pryderon lleol. Gweinidog, rwy'n gofyn, felly: a fyddech chi'n fodlon diwygio'r Bil gyda hynny mewn golwg? Fe glywais yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud. Rwy'n falch iawn o rai o'r sylwadau a wnaethoch chi. Fe wnes i dderbyn eich pwynt, oherwydd bydd yn gorff ehangach, bydd mwy i bobl dynnu ohono, ond, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, nid yw'n ddigon i fod yn annibynnol. Mae angen i bawb weld eich bod yn annibynnol.
Dirprwy Lywydd, mae gennyf un pwynt cyflym pwysig iawn i'w wneud—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n gwybod fod amser wedi mynd yn drech na mi—rwyf o'r farn na ddylai'r Bil fod yn fud a pheidio â sôn am y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cefnogi ac yn amddiffyn y rhai sy'n codi pryderon gwirioneddol. Rwyf wedi cyfarfod â gweithwyr proffesiynol o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol o bob cwr o Gymru sydd wedi bod yn dyst i arferion gwael, arferion drwg, arferion amhriodol, ac wedi adrodd am hynny a herio'r fath arferion, ond ni wrandawyd ar lawer o'r gweithwyr gofal iechyd hynny. Yn hytrach, cawsant yn aml eu beio. Cawsant eu herlid, eu difrïo, eu gwthio i'r cyrion ac maen nhw wedi teimlo y llesteiriwyd eu gyrfaoedd. Mae gormod ohonynt yn dioddef llawer gormod o straen am geisio gwneud y peth iawn. Dechreuais godi'r pryder hwn tua wyth mlynedd yn ôl, a hoffwn ofyn i chi, Gweinidog, a dweud wrthych chi, os ydych chi o ddifrif eisiau gweld dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd yn trawsnewid y sefyllfa yn ein GIG, rhaid ichi roi sylw'n llwyr i'r mater hwn ar wyneb y Bil. Os ydych chi'n mynd i arwain newid diwylliant, sef yr hyn yr ydych chi'n dweud eich bod eisiau ei wneud, mae'n rhaid i ni amddiffyn mewn difrif calon y rhai hynny sy'n datgelu pryderon a rhoi'r llais iddyn nhw a sicrhau eu bod yn gwybod y gallan nhw leisio eu pryderon. Rydym ni wedi gweld cynifer o achosion lle cawsant eu hanwybyddu. Diolch.