Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:46, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, hoffwn ofyn i chi, yn olaf, ymateb i rywfaint o wybodaeth newydd sydd wedi ei chyhoeddi ynghylch y cynigion sydd wedi eu gwrthod erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys yn y gogledd. Yn gyntaf oll, a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol bod eich swyddogion wedi ceisio cynnwys prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gary Doherty, mewn materion gwleidyddol trwy rannu testun cynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd gydag ef, ac yr ymatebodd iddo, fel y dywedodd ef, 'llinell arfaethedig i'w chymryd'?

Mae hefyd yn dweud yn ei e-bost fod bod y cynigion a dynnwyd yn ôl erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys, a gondemniwyd gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ac Unsain fel rhai didostur a hollol annerbyniol, eisoes yn gweithredu mewn bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Rydych chi wedi cuddio manylion y bwrdd iechyd dan sylw. A allwch chi ddweud wrthym ni nawr pa un yw hwnnw? A chyn i chi gael eich temtio i ddweud, 'Materion gweithredol yw'r rhain', neu 'Rhowch y bai ar y Torïaid', a ydych chi'n barod i gydnabod, o Gwm Taf i Betsi, mai un person sy'n gyfrifol am y GIG yn y pen draw, Prif Weinidog, a chi yw hwnnw?