Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Llywydd, mae'r digwyddiadau yng Nghwm Taf yn haeddu ymateb mwy difrifol na'r un yr ydym ni newydd gael ei gynnig gan arweinydd Plaid Cymru. Go brin y mae pa un a oedd llefarydd ar y fainc flaen yn gwbl gyfarwydd â'r manylion yn berthnasol o gwbl i'r mamau a'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau yng Nghwm Taf. Mae'r Llywodraeth hon wedi canolbwyntio ac mae'r Gweinidog wedi canolbwyntio ar sicrhau bod pryderon y mamau hynny yn cael ymateb priodol, bod pob cyfle iddyn nhw gyfrannu at y broses o unioni'r hyn a aeth o'i le yng Nghwm Taf. Dyna'r pethau sydd o bwys i'r teuluoedd hynny ac i gleifion yn ardal Cwm Taf, ac nid yw'r ymgais i'w droi'n rhyw gecru gwleidyddol dibwys o ddim clod o gwbl iddyn nhw nac iddo fe.