Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Diolch, Llywydd.
Prif Weinidog, mae canlyniadau'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr heddiw yn cadarnhau unwaith eto bod Cymru wedi parhau fel y wlad â'r perfformiad isaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer pob pwnc, er gwaethaf y gwelliannau sy'n cael eu gwneud. Pam na fu unrhyw welliannau ystadegol arwyddocaol i sgoriau PISA Cymru o ran darllen a mathemateg ers 2006?