Adroddiad Canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:21, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Cafwyd rhywfaint o newyddion cadarnhaol i Barc Lansbury yn etholaeth Caerffili. Nid yw bellach wedi ei restru fel yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, er bod anawsterau'n parhau, fel y mae'r Prif Weinidog yn cydnabod, ac mae'n dal i fod ymhlith y 10 uchaf. Rwy'n credu bod y gwelliant wedi deillio o gymysgedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn enwedig o ran safon ansawdd tai Cymru—gwariwyd £8 miliwn ar gladin a thoeau newydd ar gyfer eiddo'r cyngor, gwariwyd £4.5 miliwn ar ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd, a £2.5 miliwn cyffredinol yn ychwanegol o ran safon ansawdd tai Cymru.

Rwy'n credu y bydd rhai o'r pethau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw heddiw ynglŷn ag addysg a'r gwelliannau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynllunio yn hynny o beth yn gwneud gwahaniaeth ym Mharc Lansbury—mae Dechrau'n Deg yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned honno. Beth arall all Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ragweld fydd yn cael ei wneud ar gyfer cymuned glòs, cymuned fendigedig, fel Parc Lansbury?