2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:37, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, o ran y mater cyntaf, sef presenoldeb mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent, byddwn i'n eich gwahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn amlinellu eich safbwyntiau a'ch pryderon yno.

Ac, wrth gwrs, yr eitem nesaf o fusnes y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ganlyniadau PISA, a gwn i ei bod yn awyddus i drafod yr holl faterion hyn gyda'r Aelodau y prynhawn yma.