3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Canlyniadau PISA 2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:51, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae canlyniadau 2018 PISA yn cael eu cyhoeddi heddiw, ac am y tro cyntaf erioed, mae Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol, ac i ymdrechion ein hathrawon ni a'n myfyrwyr ni y mae'r diolch am hynny. Rwy'n awyddus i roi gwybod i bob athro, pob myfyriwr, pob rhiant, a phob cyflogwr ein bod ni wedi dal i fyny. Rydym wedi gwella ym mhob maes ac mae gennym fwy o berfformwyr uchel nag erioed o'r blaen. Mae newyddion heddiw yn gadarnhaol i bob un o'r rheini sydd wedi buddsoddi yn llwyddiant ein pobl ifanc a'n system addysg ni. Ydy, mae'n gadarnhaol, ond nid yw'n berffaith.

Dair blynedd yn ôl, roeddwn wedi egluro'n groyw nad oeddem mewn sefyllfa foddhaol a bod PISA yn ddangosydd pwysig i gyflogwyr, buddsoddwyr a rhieni. Fe gymerais i gyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, OECD, ynglŷn â'n diwygiadau ni. Fe ddywedon nhw wrthym am ddyfalbarhau, a bod yn ddewr, a bod yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud yn gywir. Fe wrandewais i ar y cyngor hwnnw. Yn dilyn hynny, aethom ymlaen i gyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed yn ein hathrawon, y rhaglen dysgu proffesiynol fwyaf erioed, ac rydym wedi parhau i ddiwygio ein cwricwlwm.

Nawr, am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg. Am y tro cyntaf erioed, mae ein sgoriau ni wedi codi ym mhob maes a gafodd ei brofi ac ymhlith criw dethol iawn o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud hyn yng nghanlyniadau 2018. Rydym hefyd wedi cyrraedd ein sgôr grai orau erioed ar gyfer darllen ac ar gyfer mathemateg. Felly, ydym, rydym wedi dal i fyny â'r rhelyw. Rydym wedi treulio llawer gormod o amser yn llusgo y tu ôl i wledydd fel yr Iseldiroedd neu'r Swistir, neu'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran hynny, ac rydym bellach wedi ymuno â nhw ym mhrif ffrwd yr OECD. Ac, yn hollbwysig yn fy marn i, rydym wedi gwneud hynny ar yr un pryd â chau'r bwlch cyrhaeddiad. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: nid dyma'r amser i godi ein troed ni oddi ar y sbardun. Fel isafswm lleiaf, mae angen inni fynd yr un mor gyflym. Rwyf eisiau ein gweld ni'n cynnal y momentwm hwn ac yn parhau i symud ymlaen.

Felly, gadewch i mi droi nawr at faterion a datblygiadau penodol. Mae'r sampl PISA ym mhob gwlad yn adlewyrchu pob system genedlaethol unigol. Felly, wrth gwrs, i ni, mae hynny'n gymysgedd o ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog o fewn addysg gwasanaeth cyhoeddus annetholus. Mae'r sampl mewn systemau eraill yn wahanol iawn, ac yn adlewyrchu ysgolion detholus a rhai nad ydyn nhw'n perthyn i'r wladwriaeth, fel y mae hi dros y ffin. Ond nid dyna'r dull yng Nghymru. Fe fyddwn ni—fe fyddaf i—yn parhau i gefnogi ein system ni, gan ddisgwyl llawer gan bob un, heb ystyried cefndir unrhyw un; gan weithio gyda'n gilydd i godi safonau ar gyfer pawb a sicrhau ein bod ni'n cyplysu tegwch â rhagoriaeth. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD a systemau y tu hwnt i Gymru a thu hwnt i'r Deyrnas Unedig. Wedi'r cyfan, fe gymerodd 79 o wledydd ran yn PISA, ac rydym yn ein meincnodi ein hunain yn erbyn pob un ohonyn nhw.

Mae canfyddiadau'r OECD yn rhoi cyfres gyfoethog o wybodaeth a rhai naratifau diddorol iawn i ni. Pryder cyffredin ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan yw'r bwlch mewn perfformiad ar gyfer darllen rhwng bechgyn a merched. Mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob gwlad unigol, ac yng Nghymru, yr un yw'r stori.

Mae cyllid ar gyfer addysg yn bwysig, ond mae'r OECD yn dweud bod sut rydych chi'n gwario'r arian yn bwysicach. Mae Estonia yn gwario 30 y cant yn llai na'r cyfartaledd, ond mae'r OECD yn nodi'r wlad honno'n un o'r rhai sy'n perfformio orau. Ac maen nhw'n gallu dangos yr hyn y gall cenedl fach a medrus ei gyflawni. Felly gadewch inni beidio â rhoi unrhyw gyfyngiadau ar ein huchelgeisiau i Gymru. Fe wn i fod athrawon ledled Cymru yn rhannu'r uchelgeisiau hynny. Fe fyddwn ni'n dymuno i ganlyniadau heddiw wneud i bob athro unigol fod yn fwy sionc yn ei gerddediad. Mae gwelliant yn bosibl ac rydym wedi dangos hynny. Rydym yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond, unwaith eto, gadewch imi fod yn glir: mae llawer mwy y mae angen ei wneud eto.

Mae ein cenhadaeth genedlaethol wedi mapio'r llwybr cywir ac fe allwn ni, ac mae'n rhaid inni, ddal ati i wella. Er enghraifft, Llywydd, ystyriwch fy her i, dair blynedd yn ôl, i wella ein cyfran ni o ddysgwyr sy'n perfformio orau yn PISA o'r lefelau affwysol o isel a welsom ni yn 2015. O ran darllen, mae gennym 7 y cant o berfformwyr uchel erbyn hyn, o'i gymharu â 3 y cant yn y rownd ddiwethaf, ac rydym wedi cynyddu'r gyfran yn y ddau faes arall. Cafwyd cynnydd tebyg o ran mathemateg, ac ychydig yn llai o ran gwyddoniaeth.

Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Yn wahanol i'r sgorau yn gyffredinol, nid ydym eto wedi cyrraedd cyfartaledd yr OECD ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr. Ond, rwy'n credu bod ein cynllun gweithredu priodol cyntaf ni ar gyfer disgyblion sy'n fwy galluog a thalentog, ac ehangu ein rhaglen Seren i ddisgyblion o flwyddyn 8 i fyny, a gosod disgwyliadau uchel ar bawb yn gwneud gwahaniaeth ac fe fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth.

Gan weithio gyda busnesau blaenllaw yng Nghymru, yn ogystal â'n colegau a'n prifysgolion, rydym yn gosod safon uchel. Ac mae hynny'n golygu bod ein myfyrwyr yn gwneud argraff fawr pan fyddan nhw'n astudio am gyfnod mewn prifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt, Yale, Harvard a'r Massachusetts Institute of Technology. Nawr, un o'm blaenoriaethau i erioed fel Gweinidog fu edrych ar ein diwygiadau ni o'r safbwynt rhyngwladol hwnnw. Ac, fel y dywedais i, dyna pam y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD wrth inni fwrw ymlaen â'n rhaglen ni o ddiwygio. Y tro diwethaf, eu negeseuon allweddol i mi oedd y dylem barhau â'r ymdrechion i ddiwygio'r cwricwlwm a chodi safonau addysgu.

Wel, fe fydd fframwaith diwygiedig y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Fe gaiff ei ategu gan gefnogaeth, adnoddau a chyngor uniongyrchol i ysgolion ac athrawon. Fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y grant datblygu disgyblion ac i ddiwygio'r anghenion dysgu ychwanegol, gan roi'r gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen i'r dysgwyr hynny lwyddo yn ein system ni. Ac fe fyddwn ni'n parhau i wyrdroi'r blynyddoedd o esgeulustod o ran arweinyddiaeth i fod yn brif ysgogydd ein rhaglen ddiwygio ni, ac fe fyddwn ni'n parhau i roi'r adnoddau sydd eu hangen ar athrawon i gyflawni ar eu gorau.

I gloi, Llywydd, yn ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol ni, fe wnes i nodi tri amcan: codi safonau; mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad; a sicrhau system sy'n destun balchder cenedlaethol ac y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynddi. Mae canlyniadau heddiw yn dangos llwyddiant yn erbyn pob un o'r amcanion hynny. Sgoriau uwch ym mhob maes; gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion; Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol am y tro cyntaf yn ystod oes PISA; y sgoriau gorau erioed mewn mathemateg a darllen; a'r unig genedl yn y DU a welodd welliant ym mhob maes.

Unwaith eto, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n hathrawon a'n myfyrwyr ni. Mae'r canlyniadau hyn yn tystio i'w gwaith caled a'u hymroddiad nhw, ac maen nhw'n dechrau dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni.