Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig, sef diwrnod a gynlluniwyd i hyrwyddo hawliau pobl anabl a chynyddu ymwybyddiaeth o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Fodd bynnag, fel Llywodraeth, mae ein swyddogaeth yn fwy o lawer. Gan weithio gyda sefydliadau pobl anabl, adrannau Llywodraeth, y trydydd sector a byd busnes, rhaid i ni arwain y gwaith o ganfod a chael gwared ar y rhwystrau sy'n analluogi pobl.
Mae'r rhan fwyaf o'r rhwystrau hyn wedi'u gwreiddio mewn agweddau negyddol, y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, a'r amgylchedd adeiledig. Rhaid inni i gyd gofio bod llawer o'r rhwystrau hyn yn anghyfreithlon, gan arwain at y gwahaniaethu beunyddiol a wynebir gan bobl anabl. I nodi'r diwrnod hwn, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i helpu pobl anabl i oresgyn y rhwystrau y maent yn dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu wrth geisio a chadw gwaith.
Rydym yn glir ynghylch ein hymrwymiad i greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, gan geisio cydraddoldeb i bawb. Roedd ein cynllun cyflogadwyedd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018, yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith. Rydym ni wedi gweithredu ar draws y Llywodraeth i gychwyn y newid sylweddol sydd ei angen i ddileu'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Er fy mod yn falch iawn o ddweud ein bod wedi gweld cynnydd yng nghyfradd cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2019—cynnydd o 45.2 y cant i 48.6 y cant—mae angen gwneud mwy er mwyn inni gyflawni cyfradd gyflogaeth gyfartalog y DU ar gyfer pobl anabl.
Roedd ein fframwaith traws-lywodraethol 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt AC, ar 18 Medi, yn cyfleu ein hymrwymiad i ganfod a herio arferion cyflogaeth gwahaniaethol; cynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith drwy roi cymorth wedi'i deilwra i unigolion oresgyn rhwystrau i gael swyddi cynaliadwy a'u cadw; a newid agweddau cyflogwyr, lleihau'r stigma, a chefnogi cyflogwyr yn well i recriwtio a chadw pobl anabl.
Rydym yn ailganolbwyntio ein darpariaeth gyflogaeth bresennol, drwy weithio ar y cyd â phartneriaid a chontractwyr i ganolbwyntio adnoddau er mwyn gwella ymgysylltu a chefnogi mwy o bobl anabl i gael gwaith. Amcangyfrifir, ar draws rhaglenni Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, y gallai hyn gefnogi cynnydd o tua 25 y cant yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.
Rydym ni wedi gwneud camau breision i ddatblygu darpariaeth gyflogadwyedd bwrpasol i fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth, drwy gefnogi'r rheini sydd wrth galon y gymuned drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol; cefnogi'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur oherwydd rhwystrau iechyd sylweddol, drwy ein cynlluniau cyflogaeth lle mae pwyslais mawr ar iechyd; a darparu hyfforddiant yn y gwaith drwy raglenni fel prentisiaethau.
Ym mis Mai fe wnaethom ni lansio Cymru'n Gweithio, ein gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd, sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar gyngor a chymorth proffesiynol, asesiadau ar sail anghenion a chael eu cyfeirio i gyfleoedd gwaith. Mae gan y gwasanaeth hwnnw, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, hyfforddwyr a chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig sy'n cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol a phersonol i ganfod a goresgyn rhwystrau y mae unigolion, gan gynnwys pobl anabl, yn eu hwynebu, wrth symud tuag at gyflogaeth.
Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yn nodi sut y mae angen i ni gefnogi pobl i fyw bywydau iachach. Mae dod o hyd i waith yn hynod o bwysig i'r dull ataliol hwn, ac rydym ni'n sicrhau y gall ein rhaglenni cyflogaeth seiliedig ar iechyd gefnogi mwy o bobl anabl i gael a chadw swyddi.
Mae heddiw'n nodi blwyddyn ers i ni lansio ein cynllun gweithredu ar anabledd 'Prentisiaethau Cynhwysol', ac rydym yn gwneud cynnydd da o gymharu â'r camau gweithredu sydd ynddo. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2017/18 yn dangos bod 5.6 y cant o brentisiaid wedi datgan eu bod yn anabl o gymharu â dim ond 3.4 y cant yn 2013/14. Drwy gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun i ddileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cyfrannu, rydym yn ffyddiog y gallwn ni weld y ffigur hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Nid cefnogi unigolion yn unig ydym ni, ond busnesau hefyd, i greu'r amodau i bobl anabl ffynnu mewn gwaith. Gallaf gadarnhau y caiff hyrwyddwyr cyflogwyr pobl anabl, a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol ac yn rhoi gwell cefnogaeth i recriwtio a chadw pobl anabl, eu recriwtio yn y flwyddyn newydd. Rydym ni hefyd yn adolygu ein deunydd marchnata ac adnoddau cyflogwyr i chwalu camdybiaethau, dylanwadu ar agweddau cyflogwyr a'u newid, a chodi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ehangach sydd ar gael i fusnesau wrth gyflogi pobl anabl. Hefyd, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl i asesu dewisiadau ar gyfer adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hyn yn fuan iawn.
Rydym ni hefyd yn newid natur sgyrsiau gyda busnesau. Mae Busnes Cymru, ynghyd â'i gyngor busnes cyffredinol, yn cynnwys cyngor ar bolisïau ac arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth i gynghori busnesau ar recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Bydd hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd i bobl anabl ddechrau busnes, gan gynnwys modelau busnes amgen fel mentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol. Caiff gwefan Busnes Cymru ei hehangu i ddod â gwybodaeth berthnasol ynghyd ar gyfer pobl anabl sy'n ceisio dechrau a thyfu busnes, ac annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid drwy Busnes Cymru, canolfannau menter, Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Ac, er mwyn annog a hyrwyddo arferion busnes a chyflogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r lleiafswm cyfreithiol, rydym yn ystyried dewisiadau i ehangu a dwysáu effaith y contract economaidd fel ei fod yn cynyddu dealltwriaeth a chyfrifoldeb cyflogwyr ymhellach o ran gwella recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Yn sicr, o leiaf, gallai hyn gynnwys cyfeiriad penodol yn ein canllawiau ar gyfer contractau economaidd at bolisïau, prosesau a rhaglenni sydd â'r potensial i gefnogi gweithlu mwy amrywiol.
Rydym ni'n ymwybodol y gallai cynnal cwmpas a maint y cymorth i unigolion a busnesau fod yn her wrth symud ymlaen, gan fod ein dull o weithredu yn cael ei danategu gan gronfeydd Ewropeaidd. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn ailadrodd ei safbwynt clir a diamwys i unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU: dim ceiniog yn llai, dim colli unrhyw bwerau os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Rydym ni i gyd yn gwybod mai ein rhwystrau cymdeithasol sy'n analluogi pobl â namau. Daw'r ddealltwriaeth hon o'r model cymdeithasol o anabledd a fabwysiadwyd gennym ni fel Cynulliad yn 2002, gan wneud Cymru yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hynny. Ein nod yw ymgorffori'r model hwn yn weladwy ac yn effeithiol ar draws pob maes gwaith, gan gynnwys datblygu economaidd a chymorth cyflogwyr, er mwyn annog pob sefydliad yng Nghymru i wneud yr un peth.
Os byddwn ni, yng Nghymru, yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn roi terfyn ar y gwahaniaethu sy'n difetha bywydau cynifer o bobl. Mae'n ddyletswydd foesol, ac os caf fentro dweud, economaidd arnom ni i wneud hynny.