Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei sylwadau hynod adeiladol, a hefyd am ei gwestiynau, a chydnabod yr ymroddiad y mae wedi'i roi i'r agenda arbennig hon dros flynyddoedd lawer? Credaf y byddai Mark Isherwood yn cytuno ein bod i gyd yn dymuno sicrhau bod pob person anabl yn cael yr un rhyddid ac urddas a dewis a rheolaeth â phawb arall mewn cymdeithas, boed hynny yn y cartref, yn y gwaith, mewn addysg neu yn y gymuned. Mae Mark Isherwood wedi codi'r cwestiwn ynghylch sut y gallwn ni gefnogi busnesau a hyrwyddo arferion cyflogi cyfrifol yn fwy ymysg busnesau.
Hoffwn dynnu sylw at y ffaith, Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, fod amrywiaeth o dystiolaeth sy'n dangos pam y dylai busnesau gyflogi pobl anabl. Er enghraifft, mae gweithwyr anabl, a bod yn onest, yn fwy tebygol o aros mewn swydd am gyfnod hwy a chael llai o absenoldeb salwch hefyd. Mae ymchwil hefyd wedi canfod eu bod yn fwy tebygol o ymdrin â phroblemau mewn ffordd greadigol a chyflawni tasgau gwahanol mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Felly, mae angen i gyflogwyr fanteisio ar ddoniau pobl anabl a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eu gweithlu.
Mae Mark Isherwood yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn, gan gynnwys perfformiad rhaglenni cyflogadwyedd hyd yn hyn, yr angen i awdurdodau lleol gydnabod bod y ddyletswydd yn berthnasol iddynt, y swyddogaeth y gallai'r hyrwyddwyr anabledd ei chael yn y dyfodol, y bwlch cyflog i bobl anabl hefyd a sut y byddwn yn ceisio lleihau hynny, a chysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r trydydd sector.
Rwy'n mynd i geisio ymdrin â'r holl bwyntiau pwysig hyn. I ddechrau, fodd bynnag, gyda'r cwestiwn cyntaf a godwyd, sef sut y gallwn ni sicrhau bod gan bobl anabl yr hawl i fyw'n annibynnol, wel byddwn yn cyfeirio at yr adroddiad 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog ac sy'n cynnwys cyfres o gamau i sicrhau bod darpariaeth a chymorth byw'n annibynnol ar gael i bawb.
O ran perfformiad cyflogadwyedd hyd yn hyn, cyfeiriodd yr Aelod at brosiect penodol y byddaf yn fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei chylch. Gwyddom fod y canlyniadau drwy raglenni cyflogadwyedd hyd yma wedi bod yn drawiadol. Gwyddom, ers 2014, er enghraifft, fod y cylch cyfredol o raglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi cefnogi mwy na 16,000 o unigolion i gael gwaith, a bod tua 16 y cant o'r rhain wedi datgan bod ganddynt anabledd.
O ran ein rhaglen Cymunedau am Waith, mae 1,843 o bobl anabl wedi cael eu cynorthwyo i gael gwaith ers mis Mai 2015. Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi cynorthwyo dros 4,250 i gael gwaith ers ei lansio ym mis Ebrill 2018, ac mae 2,264 o'r rhai a fu'n rhan o hynny hyd yn hyn yn anabl neu mae ganddynt gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Ac, o ran y rhaglen hyfforddeiaeth sy'n cael ei gweithredu, mae 750 o bobl ifanc sydd wedi datgan eu bod yn anabl wedi dechrau gweithio.
Byddwn yn gwella perfformiad, byddwn yn newid pwyslais ac yn ailflaenoriaethu gwariant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop—arian Ewropeaidd y disgwyliwn gael yr un swm yn union, os gadawn yr UE, gan Lywodraeth y DU—a thrwy wneud hynny ein nod yw creu cyfleoedd ar gyfer 25 y cant arall o bobl sy'n wynebu ffactorau yn eu bywydau sy'n achosi anabledd.
Credaf fod Mark Isherwood yn cefnogi'r egwyddor o benodi hyrwyddwyr anabledd ledled Cymru. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog yn awyddus i'w ddatblygu gyda chynnydd cadarn, a byddwn yn cyhoeddi rhagor am y cynllun hwn yn y flwyddyn newydd, ond gallaf sicrhau'r Aelod heddiw y bydd yr hyrwyddwyr hynny wedi byw ac wedi profi ffactorau sydd wedi achosi anableddau iddynt yn bersonol yn eu bywydau, i ddod â'r mewnwelediad sydd mor bwysig y mae'r Aelod ei hun yn ei gydnabod.
Tynnodd Mark Isherwood sylw hefyd at y bwlch cyflog anabledd sy'n bodoli yng Nghymru ac sydd ar hyn o bryd yn 9.9 y cant. Mae'r bwlch cyflog hwnnw'n annerbyniol. Fodd bynnag, mae'n is na'r DU yn ei chyfanrwydd, sef 12.2 y cant ar hyn o bryd. Cymru oedd y pumed lleiaf o blith 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU yn 2018 o ran y bwlch cyflogau. Er mwyn lleihau'r bwlch hwnnw ymhellach ac er mwyn lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng cyfartaledd Cymru a chyfartaledd y DU, mae gennym ni nifer o ymyriadau newydd y manteisir arnynt yn llawn, gan gynnwys gwaith ar y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys swm sylweddol o waith sydd eisoes wedi'i wneud o ran gwaith teg ac ymwreiddio egwyddorion gwaith teg a thrwy ymestyn ymhellach y contract economaidd a grybwyllais yn fy natganiad.
O ran ymgysylltu a chysylltu, mae ymgysylltu â'r trydydd sector yn ganolog i bopeth a wnawn o ran cynorthwyo pobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anableddau iddynt yn eu bywydau. Ac o ran ymgysylltu â'r adran Gwaith a Phensiynau, rwy'n falch o'r graddau y mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydweithio â'i gilydd, boed hynny er mwyn sicrhau bod Hyderus o ran Anabledd yn cydnabod yn llawn ac yn gweithredu'n gwbl gyson â'r cymorth ychwanegol sydd ar gael gan raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru neu'r rhaglen Mynediad at Waith, sy'n hanfodol bwysig, yn fy marn i, ac sy'n ymddangos ar safle Busnes Cymru. Mae wedi'i gynnwys yno er mwyn cyfeirio unigolion a chyflogwyr i gyllid a all helpu i dalu am amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys unrhyw addasiadau i'r amgylchedd gwaith, am offer arbennig a gweithwyr cymorth a chefnogi darpariaeth iechyd meddwl.
O ran sicrhau ein bod yn cael mwy o gysondeb fyth rhwng ymyriadau'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ymyriadau Llywodraeth Cymru ac yn benodol ynghylch Hyderus o ran Anabledd, rydym ni wrthi'n gwneud gwaith polisi i ystyried sut y byddwn yn cyflawni'r cam hwn o fewn fframwaith newydd Llywodraeth Cymru, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', o ran datblygu cynllun gwobr anabledd i gyflogwyr yng Nghymru, a allai adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd neu fod yn gynllun newydd i annog cyflogwyr i anelu at fod yn fwy cefnogol o bobl anabl. Ac wrth ystyried yr anghenion penodol sy'n cael eu cydnabod ar gyfer Cymru a sut y byddai cynllun gwobr anabledd i Gymru yn gweithio, ac yn gyson â'r hyn y mae swyddogion Hyderus o ran Anabledd yn ei gynnig, byddwn yn cyfarfod â nifer o randdeiliaid yn y sector, gan gynnwys y trydydd sector, i geisio eu barn ar y mater pwysig hwn.