Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Os oes gennych chi anabledd, rydych chi'n fwy tebygol o fod yn ddi-waith, ac os ydych chi mewn gwaith, rydych chi'n fwy tebygol o fod ar yr isafswm cyflog. Dyna'r realiti i bobl ag anableddau yng Nghymru heddiw. Er bod sefydliadau fel Barod—cwmni buddiannau cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe, yn arbenigo mewn hyfforddiant a gwybodaeth arloesol, lle mae'r perchenogion a'r gweithlu yn gymysgedd gyfartal o bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, sy'n arbenigo mewn pontio'r bwlch rhwng sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat a phobl ag anableddau dysgu—nid oes digon o bell ffordd o gwmnïau o'r math hwn er mwyn cael pobl ag anableddau dysgu i mewn i gyflogaeth.
Rwy'n ddigon hen i gofio pan roedd gennym ni'r system cerdyn gwyrdd. Roedd disgwyl i gwmnïau gyflogi cyfran benodol o bobl gyda chardiau gwyrdd ac adroddwyd ar y ganran. Diflannodd hyn, yn anffodus, gyda'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, ac rwy'n credu bod hynny wedi gwneud llawer mwy o niwed na daioni, oherwydd bryd hynny, fe allech chi ddwyn cyflogwyr i gyfrif. Ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn dwyn cyflogwyr i gyfrif.
Mae gennyf i un sylw pellach a dau gwestiwn. Soniwn am anabledd fel pe bai'n un peth. Mae yna ystod eang o anableddau sy'n amrywio o ran eu graddau a'u problemau i'r bobl sy'n dioddef ohonynt. Mae pobl sydd ag anableddau bach iawn, na fyddech yn gwybod eu bod yn anabl pe byddech yn eu gweld yn cerdded i lawr y stryd, ac eithrio y gallent fod yn cerdded ychydig yn araf, i'r rheini sydd ag anableddau lluosog ac anableddau difrifol iawn. Felly, rwy'n credu ein bod yn tueddu i siarad am bobl anabl fel petaent yn un corff; dydyn nhw ddim, maen nhw'n grŵp o bobl sydd â phroblemau hollol wahanol ac anghenion gwahanol.
Soniodd Dai Lloyd am y gymuned fyddar. Mae fy chwaer yn hollol fyddar, yr wyf wedi sôn amdani ar fwy nag un achlysur yn y fan yma, ac mae'n anhygoel o anodd. Mae cyflogwr yn gallu anwybyddu unrhyw Ddeddf drwy ddweud 'y gallu i ateb y ffôn'. Mae hynny'n eithrio unrhyw un sy'n hollol fyddar. Byddai llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel rhywbeth nad yw'n afresymol disgwyl i rywun allu ei wneud, ond ar ôl ichi gynnwys hynny, rydych chi'n eithrio unrhyw un sy'n fyddar rhag gweithio yno.
Mae gennyf i ddau gwestiwn. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i hyrwyddo cyflogi pobl ag anableddau yn Llywodraeth Cymru, ac, yn bwysicach, mewn cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru? Mae hynny'n rhywbeth y mae gennych chi reolaeth uniongyrchol drosto, ac mae gennych chi reolaeth uniongyrchol hefyd dros y cyrff rydych yn eu hariannu. Y sawl sy'n talu'r delyn sy'n gofyn am y gân. Er hynny, gall yr hwn sy'n ariannu mudiad roi cyfarwyddyd.
Beth arall gellir ei wneud i gefnogi sefydliadau fel Barod, sy'n gwneud gwaith mor dda o ran trin pobl ag anableddau a'r rhai nad oes ganddynt anableddau, yr un fath yn union? Un o'r problemau sydd gennym ni yw ein bod, yn rhy aml, yn eu trin yn wahanol. Efallai bod ganddyn nhw anabledd, ond mae'n rhaid eu trin a dylid eu trin yr un fath. Felly, beth allwn ni ei wneud i helpu sefydliadau fel hynny?