Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Diolch am y cwestiynau. O ran nifer y meddygon teulu fydd yn cael eu hyfforddi y flwyddyn nesaf, rwyf wedi gosod llinell sylfaen o 160, ac fel y nodais yn fy natganiad, fy mwriad yw gallu cynyddu'n raddol nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu a fydd ar gael gennym ni ar gyfer ein llinell sylfaen newydd. Fodd bynnag, mae hynny'n dibynnu ar ein gallu i gael y nifer angenrheidiol o leoedd hyfforddi mewn practisau. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael rhywfaint o gyngor gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynghylch ein gallu o fewn y system i gynyddu'n raddol a llwyddo i recriwtio ar gyfer y niferoedd hynny.
O ran y mater penodol y sonioch chi amdano ynghylch yr ystad gofal sylfaenol, nid wyf yn ymwybodol o'r mater penodol yr ydych yn ei godi lle mae bwrdd iechyd yn atal pobl rhag ehangu darpariaeth, oherwydd dylem gofio bod cydbwysedd yma, onid oes? Gan fod practis cyffredinol yn cael ei ddarparu'n bennaf gan gontractwyr annibynnol, y mae rhai ohonynt yn berchen ar eu hadeiladau eu hunain, ac mae gan rai ohonynt bartneriaeth gydag amrywiaeth o wasanaethau eraill i weithio o safleoedd penodol. Felly, wrth fuddsoddi yn yr ystad gofal sylfaenol, rydym fwyfwy yn bwriadu buddsoddi mewn cyfuniad o'r rhain, ac i ddeall, yn y gorffennol, pan oeddem yn helpu i adeiladu cyfleusterau nad oedd y GIG yn berchen arnynt, bydd hynny yn cynnig gwahanol heriau hefyd. Felly, mae hynny'n rhannol yn ymwneud â'r model partneriaeth a'r hyn sy'n digwydd. Mae'r rhain yn faterion ymarferol go iawn sy'n rhan o'n sgwrs â phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain. Ond, o ran darparu cenhedlaeth newydd o ganolfannau, llif prosiect gofal sylfaenol, 19 o gynlluniau unigol, gan gynnwys y newyddion da a gawsom yn ddiweddar bod cynllun Aberpennar ar y safle nawr. Felly, rydym ni mewn gwirionedd yn darparu amrywiaeth newydd o safleoedd eisoes.
O ran y mater ynghylch cadw meddygon teulu presennol, ceisiaf ymdrin â hynny o ran y cwestiynau a ofynnodd Angela Burns. Doeddwn i ddim wedi'i gyrraedd o ran y rhestr o gwestiynau, ond o ran y pwyntiau ynghylch y cynlluniau cymhelliant, mae hynny'n bwysig ar gyfer cadw meddygon teulu presennol mewn practis hefyd, fel nad ydyn nhw'n teimlo nad oes unrhyw gyflenwad ar gyfer meddygfeydd teulu yn y dyfodol hefyd. Ond rydym yn bwriadu adolygu effaith y cymhellion hynny, nid yn unig yn yr ardaloedd sydd wedi cael cymhellion ar gyfer yr ardaloedd sydd wedi bod yn anodd recriwtio ar eu cyfer, ond hefyd i weld a fu effaith ar gynlluniau cyfagos o ran meddygfeydd teuluol. Eleni, ymddengys na fydd hynny'n digwydd, oherwydd inni lenwi pob cynllun. Ond fel y yr ydym ni wedi dweud, llinell sylfaen newydd ar gyfer pob un o'r cynlluniau hyfforddi hynny, rwyf eisiau gweld beth yw'r effaith uniongyrchol.
O ran y gofrestr locwm, rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn er mwyn i ni ddeall ble a faint o feddygon locwm sydd gennym ni a beth yw telerau eu cytundeb gwaith. Ac mae rhan o'r cytundeb yn y contract newydd yr ydym wedi cytuno arno gyda phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd yr ydym yn cymell pobl i adael y dull locwm o weithio ac i fod naill ai'n gyflogedig neu, yn wir, yn bartneriaid mewn practis cyffredinol hefyd, ac i roi inni'r sefydlogrwydd y byddem eisiau ei gael. Ac mae her o ran y genhedlaeth sy'n codi hefyd, sydd, yn onest, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd ond yn ehangach o lawer, ynghylch sut y gallwn ni helpu pobl i edrych ar yr hyn a gynigir o fewn y GIG ac i ddeall beth sy'n cael ei gynnig, ac ymrwymo i'r yrfa honno, boed fel contractwr gofal sylfaenol neu fel arall, ac yna dylai'r gofrestr ein helpu i wneud hynny a bod yn llawer cliriach o ran y telerau cyflogi.