Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein sector bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae'n sylfaen i'n heconomi, gyda 217,000 o weithwyr ar draws y gadwyn gyflenwi, sy'n cynnwys amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, manwerthu, arlwyo a chyfanwerthu, gan ategu twristiaeth a rhoi delwedd gadarnhaol o Gymru i'r byd. Roedd hyn yn amlwg iawn yn Blas Cymru 2019, ein digwyddiad masnach arddangos, lle daethom â phrynwyr rhyngwladol ac o'r DU at ein cynhyrchwyr a'n cynnyrch.
Mae llwyddiant yn seiliedig ar bartneriaeth. Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn bartner egniol i ni. Gyda'n gilydd rydym yn cyflymu uchelgais, yn creu llwybrau i'r farchnad, yn dileu rhwystrau ac yn hyrwyddo sector â chwmpas ac enw da cynyddol. Wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau, a'r mwyaf uniongyrchol yw Brexit. Ond mae'n rhaid i ni hefyd weithio i gynyddu cynhyrchiant, datblygu busnesau i fod yn fwy cadarn a chynaliadwy, a chynnal ein henw da am safonau cynhyrchu uchel er mwyn sicrhau y gall y diwydiant ffynnu mewn marchnad gystadleuol.
Mae dod â busnesau at ei gilydd yn rhan annatod o fynd i'r afael â'r heriau hyn a hybu llwyddiant hirdymor. Mae hyn yn gonglfaen i'n dull o weithredu ac yn sylfaen ar gyfer llwyddiant. Elfen allweddol o hyn yw ein rhwydwaith clwstwr bwyd a diod sydd wedi'i ddatblygu'n dda iawn. Mae'r rhwydwaith clwstwr yn rhaglen uchelgeisiol sydd â'r nod o greu newid gwirioneddol yn y diwydiant. Fe'i datblygwyd i roi gwell cefnogaeth i'r diwydiant trwy greu llwyfan i fusnesau o'r un anian gydweithio a chael cymorth sy'n benodol i'r sector. Mae'n hwyluso twf y sector, rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd drwy ddigwyddiadau a gweithdai rhwydweithio, ac mae'n creu cadernid yn ein cadwyni cyflenwi drwy ddatblygu gwe o gysylltiadau a chydberthnasau sy'n atgyfnerthu'r naill a'r llall.
Mae clystyrau'n hanfodol i lwyddiant mewn diwydiant ledled y byd. Maen nhw'n esblygu'n naturiol: technoleg yn Silicon Valley; esgidiau lledr a thecstilau yng ngogledd yr Eidal; a chyllid yn Ninas Llundain, i enwi dim ond rhai. Trwy ddod â busnesau a thalent at ei gilydd, maen nhw'n hybu arloesi a datblygu. Mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Ein strategaeth yw cyflymu clystyru. Trwy gymorth integredig gan y Llywodraeth, gwybodaeth dechnegol drwy Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix, ac uchelgais ein bwrdd, gall ein teulu clwstwr sy'n tyfu, helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i barhau i ddatblygu a ffynnu.
Erbyn hyn mae yna wyth clwstwr o fewn rhwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru, gyda dros 450 o fusnesau yng Nghymru yn cymryd rhan. Yn Blas Cymru, roedd y parth dysgu clwstwr yn galluogi gwneud cysylltiadau wyneb yn wyneb rhwng aelodau'r clwstwr a phartneriaid eraill. Mae ein clystyrau'n amrywio o grwpiau o fusnesau sy'n cynhyrchu math penodol o fwyd neu ddiod, i fusnesau sydd â gwahanol gynhyrchion ond sy'n rhannu nodau ac uchelgeisiau, fel cynhyrchion allforio neu gynnyrch uchel eu gwerth.
Mae ein clwb allforio yn galluogi busnesau i gydweithio a rhannu profiadau ynglŷn ag allforio, gan hwyluso allforwyr profiadol a'r rhai hynny sydd ond yn dechrau ar y daith hon i drafod rhwystrau a chyfleoedd o ran allforio. Rydym wedi cyflwyno'r system cyfeillio allforio, gan baru allforiwr profiadol ag allforiwr newydd er mwyn cadw'r cwmnïau'n atebol ac yn llawn cymhelliant. Rydym hefyd wedi datblygu cysylltiadau â mentrau cydweithredol rhyngwladol, gan ddatblygu ein huchelgais i gynyddu allforion a mewnfuddsoddi a chodi proffil rhyngwladol Cymru. Mae Prosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd yn dod â busnesau o Gymru ynghyd â busnesau o ranbarthau yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon i oresgyn rhwystrau i allforio a gwella cystadleurwydd mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Mae'r clwstwr maeth Cymru yn cynnwys dros 75 o fusnesau a sefydliadau sy'n cydweithio ar brosiectau sy'n amrywio o beirianneg bwyd i raglen datgarboneiddio strategol. Mae'n cynnwys rhaglen bwydydd y dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth a'n canolfannau bwyd ar draws y wlad, gyda'r nod o fwy o ymchwil a datblygu yn y diwydiant bwyd, gan ei gwneud yn wirioneddol arloesol a chynaliadwy mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol.
Mae'r clwstwr effaith uchel yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r broblem gwastraff frys. Mae wedi nodi cyfleoedd i leihau gwastraff, sydd hefyd werth degau o filoedd o bunnoedd o arbedion uniongyrchol, i'r busnesau dan sylw. Mae hyn yn helpu busnesau a ffyniant ehangach ac mae'n helpu lles Cymru, gan ei fod yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a'i nod o ailgylchu 70 y cant erbyn 2025, a 100 y cant erbyn 2050. Mae'r clwstwr bellach yn bwriadu datblygu hyn ymhellach, ar ôl cynnal cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar wastraff ac effeithlonrwydd adnoddau yn ddiweddar, ac rwy'n ffyddiog y bydd yn creu atebion newydd i fynd i'r afael â gwastraff deunydd pacio.
Mae'r clwstwr diodydd wedi cydweithio â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i ddatblygu strategaeth sector yfed drosfwaol i gefnogi'r rhan amrywiol a gwerthfawr hon o'n diwydiant. Mae'n datblygu grwpiau diddordeb arbennig, gan weithio tuag at brosiectau strategol penodol â phwyslais. Mae aelodau ein clwstwr bwydydd da wedi gwerthfawrogi'n fawr y gallu i rwydweithio, gyda chwmnïau'n partneru i gyflwyno cynigion i brynwyr yn Blas Cymru yn llwyddiannus, ac maen nhw bellach yn rhannu gwerthwyr hyd yn oed. Mae hyn yn dangos bod y rhwydwaith nid yn unig yn ymwneud â chwmnïau sy'n cael eu cefnogi gan y clwstwr, ond yn ymwneud â'r cymorth gweithredol y mae aelodau'r clwstwr yn ei roi i'w gilydd.
Mae'r clwstwr bwyd môr yn codi ymwybyddiaeth o'n diwydiant cynhyrchion pysgodfeydd. Maen nhw wedi creu fideos llawn gwybodaeth am y diwydiant hwn ac wedi sefydlu grŵp diddordeb arbennig brandio a bandio, gyda'r nod o gynyddu'r gallu i olrhain ac ymwybyddiaeth o darddiad y pysgod cregyn. Maen nhw hefyd yn sefydlu cyfeirlyfr bwyd môr Cymru i gyfeirio at leoedd lle gallwch chi brynu bwyd môr blasus o Gymru ledled y wlad.
Mae'r clwstwr mêl wedi'i ddatblygu yn fwy diweddar ac mae'n codi proffil cynhyrchion gwenynwyr Cymru ac yn helpu i rannu arferion gorau yn eu plith.
Wrth i ni ddatblygu'r cynllun strategol newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, rydym yn awyddus i ddysgu gwersi o'r llwyddiannau hyn er mwyn adeiladu ar y seiliau hyn a sicrhau bod y rhwydwaith clwstwr yn parhau i ffynnu yn y dyfodol. Mae'r rhwydweithiau y maen nhw'n eu creu gyda'i gilydd, ac i'r gadwyn gyflenwi ehangach, yn creu cadernid yn ein system fwyd. Mae hon wedi bod yn daith ysbrydoledig, yn esiampl o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru, gan gefnogi ein gweledigaeth i greu cenedl ffyniannus a theg o fri byd-eang.