6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rhwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:37, 3 Rhagfyr 2019

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael unrhyw gyhoeddiad arwyddocaol yn y datganiad, ond yn amlwg mae e'n ddiweddariad defnyddiol o'r hyn sydd yn digwydd. Dwi yn credu bod dod â gwahanol fudd-ddeiliaid ynghyd drwy'r gadwyn gyflenwi fesul sector yn amlwg yn mynd i ddod â buddiannau, i adeiladu ar gryfderau, rhannu profiadau, a chreu rhyw fath o critical mass, gobeithio, sydd yn mynd i weld y cynnydd yn y sectorau hynny rŷn ni gyd yn awyddus i'w weld.

Mae gen i gwpwl o sylwadau, wrth gwrs, fel y byddech chi yn ei ddychmygu. Yn bennaf, dwi'n pigo fyny o'r ddwy sector, o'r sector fwyd a hefyd o'r sector amaethyddol, fod yna ddiffyg cyswllt, fod yna disconnect rhwng eich dogfennau ymgynghori diweddar chi ar ddatblygu'r sector bwyd a diod yng Nghymru a 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Yr awgrym yw y dylai'r ddwy ddogfen hynny wneud mwy i gael eu datblygu law yn llaw, neu hyd yn oed i fod yn un strategaeth integredig. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ofyn i chi yw a oes yna berygl bod gwendid sylfaenol yn hynny o beth, hynny yw bod yna ddwy broses wahanol, dau ymgynghoriad, dwy ddogfen, i feysydd a ddylai fod yn mynd law yn llaw? Efallai y gallwch chi roi eich ymateb chi i hynny.

Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am dyfu cyrhaeddiad ac enw da'r sector fwyd a diod, y reach and renown yma. Wrth gwrs, mae brandio Cymreig yn ganolog i'r enw da a'r cyrhaeddiad hynny, boed yn y farchnad ddomestig neu, wrth gwrs, yng nghyd-destun nifer o'r marchnadoedd rhyngwladol ryn ni'n cael mynediad iddyn nhw. Sut felly ydych chi'n sicrhau fod brandio bwyd a diod Cymru yn cael ei gryfhau ac nid yn cael ei danseilio gan ymgyrchoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er enghraifft yr ymgyrch 'mae bwyd yn GREAT Britain', sydd ddim yn gweithio yn Gymraeg o gwbl? Mae yna berygl i'r brand hwnnw lastwreiddio y brand Cymreig a'r gwerthoedd mae'r ddraig goch yn eu cynrychioli ar ein cynnyrch ni.

Rŷch chi'n sôn am heriau, wrth gwrs, yn enwedig Brexit a'r angen inni sicrhau bod y sector yn fwy cydnerth a chynaliadwy. A wnewch chi felly esbonio sut y byddwch chi'n cynorthwyo'r sector fwyd a diod yn wyneb y posibilrwydd o golli rhai o'n marchnadoedd rhyngwladol ni, a hefyd colli marchnadoedd ar yr un llaw, ond hefyd gweld mewnforion rhad yn llifo i mewn i'r farchnad ddomestig ar y llaw arall, a sut bo hynny yn risg, wrth gwrs, i fod yn ras i'r gwaelod?

Rŷch chi'n cyfeirio at sut mae'r clwstwr impact uchel yn gwneud gwaith ar wastraff pecynnu. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu, ond tra eu bod nhw, wrth gwrs, yn gallu gwneud eu rhan, mae yna lawer mwy y gall Lywodraeth Cymru ei wneud, a dwi eisiau gwybod pryd y gwelwn ni'r Llywodraeth o'r diwedd yn dod i benderfyniad ar bethau megis cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, yr extended producer responsibility, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Dwi'n gwybod bod ymgynghori wedi bod, mae yna drafod wedi bod—wel, mae'r amser wedi dod nawr inni weld gweithredu, does bosib.

Yn olaf, allwch chi sôn wrthyf i beth yn fwy rŷch chi'n credu y gallwch chi ei wneud o safbwynt caffael cyhoeddus, oherwydd mae hwn yn un mater dwi ddim yn teimlo bod y Llywodraeth wedi llwyddo i'w ddatrys, nag i fynd i'r afael ag ef yn ddigonol? Mae yna'n dal ormod o gytundebau bwyd a diod sector gyhoeddus yn mynd allan o Gymru. Esboniwch inni sut ŷch chi'n gweld rôl y clystyrau yma ac unrhyw ddulliau eraill sydd gennych chi, yn benodol o safbwynt y sector fwyd a diod, i wella hynny, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod pob 1 y cant rŷn ni'n llwyddo i'w gynnal yng Nghymru yn golygu tua 2,000 o swyddi, a hynny oll, wrth gwrs, heb wario rhagor o arian—dim ond gwario'r arian rŷn ni'n ei wario yn barod yn llawer mwy effeithiol.