1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Rhagfyr 2019.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54847
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth eang o fesurau i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yng Ngorllewin De Cymru. I roi un enghraifft yn unig, yn nhyllau turio Cynffig, rydym ni'n buddsoddi £428,000 i adfer ecosystemau cymhleth o dwyni tywod, gan gynnal rhywogaethau prin ac arbenigol, fel tegeirian ac adar cân.
Diolch, Prif Weinidog. Gan fod fy rhanbarth i yn gartref i un o'r cytrefi olaf sy'n weddill o'r pryf cop fen raft, ac fel yr hyrwyddwr rhywogaeth dros y pryf cop prinnaf hwn ym Mhrydain, mae gen i ddiddordeb brwd mewn cynnal bioamrywiaeth Gorllewin De Cymru. Mae fy rhanbarth i hefyd yn gartref i un o'r enghreifftiau gorau o gynefin twyni tywod yn Ewrop—gwarchodfa natur genedlaethol Cynffig, fel yr ydych chi newydd grybwyll. Prif Weinidog, mewn dim ond ychydig fisoedd, bydd y 1,300 erw hyn o dwyni tywod a gwlyptiroedd arfordirol a reolir o bosibl yn cael eu gadael heb unrhyw reolaeth. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi'r gorau i redeg y warchodfa natur ar Nos Calan ac nid oes prydles ar gyfer ei rheoli yn y dyfodol wedi ei llofnodi eto. Mae'n hanfodol bod gwarchodfa natur genedlaethol Cynffig yn cael ei rheoli'n briodol yn y dyfodol er mwyn diogelu'r rhan hanfodol hon o'n treftadaeth naturiol a rhan bwysig o fioamrywiaeth y genedl. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â'r brydles hirdymor ar gyfer y warchodfa natur a'r camau y byddan nhw yn eu cymryd i ddiogelu'r nifer fawr o rywogaethau prin o blanhigion ac anifeiliaid sy'n ei galw'n gartref?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac am y gwaith y mae'n ei wneud fel yr hyrwyddwr rhywogaethau dros y pryf cop 'fen raft'. Fel y mae hi'n dweud, dim ond clwstwr bach iawn o safleoedd sydd yn ne Cymru erbyn hyn sy'n cynnal y pryf cop hwnnw, ac mae'n enghraifft dda o pam mae angen gweithredu ar frys i wrthdroi'r dirywiad o ran rhywogaethau a bioamrywiaeth ledled Cymru. Wrth gwrs, mae Caroline Jones yn iawn hefyd i gyfeirio at bwysigrwydd y twyni a'r ecosystem y maen nhw'n ei chynnal yn ardal tyllau turio Cynffig. Llywydd, cyfeiriais at y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—bron i £0.5 miliwn yn y fan honno—ond dim ond rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gydag eraill yn y rhan honno o Gymru yw hynny. Ceir y cynllun rheoli cynaliadwy, y prosiect O Dwyn i Dwyn—£312,000 arall, sy'n canolbwyntio ar y dirwedd rhwng tyllau turio Cynffig a chwningar Merthyr Mawr, sydd unwaith eto yn fan lle'r ydym ni'n rheoli cynefinoedd twyni tywod i wella bioamrywiaeth ac i gynnig buddion i'r gymuned leol.
Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod cynllun hirdymor i greu rhwydwaith ecolegol cydnerth yn y rhan honno o Gymru, yn union fel yr ydym ni'n ei wneud mewn cynifer o rannau eraill o'n gwlad brydferth iawn.
Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r llu o wirfoddolwyr sydd wrth eu boddau â gwarchodfa Cynffig ac sydd wedi cyfrannu oriau dirifedi o'u hamser iddi, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi herio'r ymddiriedolaeth sy'n berchen ar y safle ynglŷn â'i ddyfodol. A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn, gan ei bod hi'n Nadolig, i ddiolch i Weinidog yr amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gohebiaeth a'u hymgysylltiad ynglŷn â hyn yn ystod y misoedd diwethaf? Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n ymddangos yn annhebygol i mi y bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun y gallu i ymdrin â rheolaeth weithredol ddyddiol y safle hwn, ac mae'n debyg y bydd angen partneriaid arno yn y dyfodol. A allwch chi ddweud wrthyf beth fydd eich disgwyliadau o ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn debygol o fod yn ystod y cyfnod hwn, pa un a fyddwch chi'n cynnig unrhyw gyllid untro iddyn nhw, neu'n cefnogi adnoddau dynol ychwanegol ar gyfer y dasg bwysig hon, ac a oes gennych chi unrhyw gyngor i'r ymddiriedolaeth sy'n berchen ar y safle hwn mewn gwirionedd ynghylch caniatáu i incwm gael ei gynhyrchu yno a all gyfrannu tuag at gost cadwraeth?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Fy nisgwyliad i o ran Cyfoeth Naturiol Cymru yw y bydd yn bwrw ymlaen yn y ffordd yr ydym ni'n disgwyl i bethau gael eu gwneud yng Nghymru, a hynny mewn sgwrs a phartneriaeth agos gyda chyrff cyhoeddus eraill ac, fel y mae Suzy Davies wedi dweud, gyda'r mudiadau gwirfoddol hynny a'r llu o wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser iddyn nhw yn y rhan honno o Gymru. Rydym ni eisiau i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu â'r sefydliadau hynny, gyda'r awdurdodau cyhoeddus eraill, i lunio cynllun a fydd yn ymdrin â'r gwaith o reoli'r ecosystem hynod bwysig hon ymhell i'r dyfodol. A dyna'r ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arfer â gwneud pethau—pa un a yw'n fuddsoddiad ar raddfa fawr, o'r math yr ydym ni eisoes wedi ei ddisgrifio yn nhyllau turio Cynffig, neu pa un a yw yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn cynorthwyo grwpiau cymunedol lleol iawn, drwy'r cynllun cymunedol gwaredu safleoedd tirlenwi, yn ardal yr Aelod ei hun; £8,000, ar ben arall y raddfa yn llwyr, i achub Dôl Prior, un o'r dolydd gwair hanesyddol olaf sy'n dal i fodoli yng Ngŵyr. Y dull yr ydym ni'n ei ddilyn, ar draws y sbectrwm, yw, fel y dywedodd Suzy Davies, cydnabod y cyfraniad y mae'r grwpiau lleol hynny a'r gwirfoddolwyr lleol hynny yn ei wneud, ac yna gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i sicrhau'r cyfraniad mwyaf y gallwn ni ei wneud yn y math yna o bartneriaeth.
Prif Weinidog, mae'n amlwg mai un ecosystem yw'r twyni, ond amrywiaeth arall o'r ecosystem yw coedwigaeth, ac yn arbennig yng nghwm Afan, lle'r ydym ni wedi gweld llawer o goed yn cael eu cwympo gan Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd gwahanol amgylchiadau. Ond a ydych chi'n cytuno â mi, pan fydd cynaeafwyr yn dod i mewn, ac yn cael eu contractio i gwympo'r coed hynny, y dylen nhw gael gwared ar yr holl goed? Oherwydd mae llawer o dwmpathau coed, boncyffion coed, wedi eu gadael yng nghwm Afan—wedi eu gadael ar y ddaear, i wneud dim ond pydru—pan y gellid bod wedi eu defnyddio ar gyfer biomas, er enghraifft, a gallem ninnau eu hailblannu'n fwy diogel wedyn, oherwydd ni allwch chi ailblannu'n iawn tra bod boncyffion ar y ddaear. A phryd byddwn ni'n ailblannu'r system gyfan, oherwydd mae'n hanfodol, os ydym ni'n mynd i gwympo coed, ein bod ni'n ailblannu coed, fel y gallwn ni barhau i ddatblygu'r ecosystem?
Diolchaf i David Rees am hynna. Mae e'n iawn, wrth gwrs, i gyfeirio at effaith wirioneddol clefyd llarwydd yng nghwm Afan, ac mae hynny wedi arwain at yr angen i gwympo coed yn y goedwig honno. Rydym ni'n gwybod bod gadael rhai coed i bydru, i ddarparu cynefinoedd i bryfed ac eraill, yn bwysig, ond lleiafrif yw hynny, wrth gwrs. Ac, fel y dywed, mae angen symud coed eraill sydd wedi eu cwympo ac ymdrin â nhw mewn ffyrdd eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, Llywydd, yng nghwm Afan, bod y gwaith o ailblannu, o ailstocio'r ardal honno yn darparu coedwig gydnerth ar gyfer y dyfodol, a dyna pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achub ar y cyfle yng nghwm Afan i ailstocio'r ardal gydag amrywiaeth eang o goed. Rydym ni'n deall bod plannu un rhywogaeth yn unig yn gadael yr ardaloedd hynny'n agored i niwed pan fo clefyd yn taro. Er mwyn bod yn gydnerth, mae angen amrywiaeth eang o wahanol rywogaethau arnoch, a bydd hynny'n gwneud yn siŵr na fyddwn ni'n gweld achos arall o rai o'r ymosodiadau ar rywogaethau yr ydym ni wedi eu gweld mewn rhannau o'n coetiroedd, nid yn unig gyda llarwydd, ond gyda choed ynn a rhywogaethau eraill ledled Cymru.
Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ54850] yn ôl. Cwestiwn 3, Hefin David.