Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Llywydd, mae'r Aelod yn cyfeirio at ddiffyg gostyngeiddrwydd. A welodd ef ei Brif Weinidog ddoe? A welodd ef, pan ofynnwyd iddo edrych ar y llun o blentyn yn gorwedd ar lawr un o ysbytai'r GIG yn Lloegr, pan wrthododd edrych arno, pan wrthododd ddweud dim am drafferthion y plentyn hwnnw? Peidiwch â siarad â ni yn y fan yma am ostyngeiddrwydd. Siaradwch am ddynoliaeth, dim ond am ennyd, a'r diffyg dynoliaeth llwyr a ddangosodd ei arweinydd ef ar y foment honno, gan ddangos yn hollol pam nad oes ganddo ymddiriedaeth pobl yng Nghymru na phobl ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Mae'r blaid hon yn sefyll cornel Cymru. Mae'r blaid hon yn sefyll cornel Cymru yn wyneb pob ymosodiad y mae ei blaid ef yn ei wneud. Rydym ni'n sefyll cornel pobl sy'n wynebu ofn ac arswyd credyd cynhwysol. Rydym ni'n sefyll cornel pobl Cymru pan fo'n rhaid iddyn nhw ymdrin â chanlyniadau, canlyniadau bwriadol, polisïau ei blaid ef, a fydd yn creu 50,000 yn fwy o blant mewn tlodi yma yng Nghymru. Rydym ni'n sefyll cornel y bobl hynny sy'n mynd i mewn i'n gwasanaethau cyhoeddus bob dydd—heb arian, i ddyfynnu geiriau arweinydd yr wrthblaid; wedi eu hamddifadu o arian parod gan ei blaid ef—i geisio gwneud y gwasanaethau hynny cystal ag y gallan nhw fod. Rydym ni'n sefyll cornel pobl Cymru, a dyna pam, yn ystod 20 mlynedd o ddatganoli, y mae pobl Cymru, ym mhob etholiad y gofynnwyd y cwestiwn iddyn nhw, wedi dewis rhoi dyfodol y wlad hon yn nwylo'r Blaid Lafur. A dyna'r hyn y byddan nhw'n yn ei wneud eto ddydd Iau yr wythnos hon.