Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:55, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, datgelodd yr un datgeliad rhyddid gwybodaeth hwnnw hefyd bod rhai o'r ymgynghorwyr rheoli hyn yn y gogledd yn cael eu talu hyd at £1,000 y dydd, sy'n fwy nag y mae'r rhan fwyaf o nyrsys yn ei ennill mewn wythnos. Nawr, gadewch i mi gyflwyno un ystadegyn difrifol arall sy'n tynnu sylw at eich camreolaeth o'r GIG yn y gogledd: Mae PwC yn cael eu cyflogi gennych chi i dorri costau—neu, fel y'i hadnabyddir yn llednais, i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd. Rydych chi'n eu rhoi nhw ar gontract talu wrth dorri a fydd yn golygu bod 11 y cant o unrhyw arbediad honedig yn cael ei dalu'n ôl iddyn nhw mewn bonws. Nawr, onid ydych chi'n cytuno ag Unsain, a ddywedodd am yr un arfer yn Lloegr, yn hytrach na llenwi pocedi ymgynghorwyr rheoli, y gellid bod wedi gwario'r arian hwn yn well ar wella gwasanaethau i gleifion? Pryd ydych chi'n mynd i roi'r gorau i wneud yng Nghymru yr hyn y mae eich plaid yn addo rhoi terfyn arno yn yr etholiad hwn yn y wlad drws nesaf?