Gwasanaethau Bysiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:38, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Cawsom y newyddion yr haf yma gan Stagecoach eu bod nhw'n bwriadu terfynu'r gwasanaeth rhif 25, sy'n rhedeg o Gaerffili i ysbyty'r Mynydd Bychan, heibio i amlosgfa Thornhill. Ar ôl gweithio gyda mwy na 300 o drigolion, a Wayne David, llwyddasom i berswadio Stagecoach i ailgyflwyno'r gwasanaeth bob awr, o fis Ionawr, fel treial am chwe mis. Roedd hyn o ganlyniad i bwysau gan drigolion a chan fy swyddfa innau. Rydym ni eisiau gweld y gwasanaeth hwnnw'n parhau am gyfnod amhenodol. Rydym ni hefyd wedi llwyddo i gael Stagecoach i ddarparu gwasanaeth i ysbyty'r Mynydd Bychan o etholaeth Caerffili. Ond cysylltwyd â mi hefyd gan drigolion yn Senghennydd, ym Medwas ac yn Nelson am wasanaethau sy'n cysylltu ar draws y cwm ac yn cysylltu â gorsafoedd rheilffordd. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw: beth yw eich cynlluniau tymor hwy yn y flwyddyn nesaf ar gyfer gwasanaethau bysiau a fydd yn gwella gwasanaeth cyhoeddus yn etholaeth Caerffili?