Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Prif Weinidog, bu'n rhaid i Gyngor Sir Powys leihau rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda'r straen parhaus ar ofal cymdeithasol a'r agenda lles, tybed a ydych chi'n cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y Gymru wledig. A gaf i ofyn beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod gan yr holl bobl mewn cymunedau gwledig ledled y canolbarth fynediad at wasanaethau allweddol i ganiatáu iddyn nhw fyw bywydau bodlon?