Gwasanaethau Bysiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:43, 10 Rhagfyr 2019

Efo arian mor brin ar gyfer gwella gwasanaethau bysiau, doedd yna ddim syndod bod yna siom fawr a beirniadaeth lem wedi bod pan ddaeth i'r amlwg bod y Gweinidog trafnidiaeth wedi ymyrryd yn bersonol i sicrhau arian ar gyfer y gwasanaeth bws yn ei etholaeth o. Dwi'n deall bellach fod y Gweinidog wedi cyfeirio ei hun at y Prif Weinidog i ymchwilio i'r cyhuddiad ei fod o wedi torri'r cod gweinidogol. Ydy'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni ydy o wedi cwblhau yr ymchwiliad i hynny a beth ddaeth yn gasgliad o hynny? Os nad yw, pa bryd fydd y gwaith yn cael ei wneud, oherwydd mae pobl angen gwybod bod yna dryloywder llwyr yn y ffordd mae arian yn cael ei wario ar wasanaethau bysiau a bod yr arian yn cael ei wario mewn ffordd gwbl deg a chyfartal ym mhob rhan o Gymru?