Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae mentrau tasglu Cymoedd Blaenau Gwent yn cynnwys £500,000 i sefydlu Parc Bryn Bach fel safle porth i barc rhanbarthol y Cymoedd. Ar yr un pryd, bydd yr ardaloedd yn elwa ar gronfa her yr economi sylfaenol, y grant cartrefi gwag ac, yn y flwyddyn newydd, y cynllun arbrofol bysiau ymatebol integredig y bwriedir ei gynnal ym Mlaenau Gwent.