Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yng nghyfarfod cyntaf un Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, neu'r Prif Ysgrifennydd, Alun Michael, bod yn rhaid i ni gyflawni tri pheth dros Gymru. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni sicrhau gwell bywyd i bobl Cymru. Yn ail, mae'n rhaid i ni greu ymdeimlad o undod a phwrpas, ac, yn drydydd, mae angen i ni sicrhau hyder newydd ynom ni ein hunain yng Nghymru ac mewn bywyd gwleidyddol. Prif Weinidog, mae Llafur Cymru wedi rhedeg Llywodraeth Cymru ers dros 20 mlynedd. O ystyried, a allwch chi ddweud yn onest bod yr her a gyflwynwyd gan Alun Michael wedi ei bodloni?