Cyfraddau Goroesi Canser

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:27, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Y ffaith yw bod rhoi diagnosis i bobl ar y cam cynharaf yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfle gorau i gleifion oroesi canser. Fodd bynnag, mae pob bwrdd iechyd heblaw am un yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd recriwtio a chadw radiograffwyr. Mae oddeutu un o bob 10 o swyddi nyrs endosgopi yn wag, ac mae rhai byrddau'n gorfod dod â thimau o Loegr i mewn i glirio ôl-groniadau. Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gynyddu'r lleoedd hyfforddi clinigol yn unol ag anghenion cleifion Cymru yn y presennol ac yn y dyfodol, os gwelwch yn dda?