Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y bore yma, cyflwynais gopi o adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r canlyniadau'n anodd ei darllen. Mae'r prif ffigur—a'r un yr wyf yn siŵr yr hoffai'r Aelodau heddiw i gyd ganolbwyntio arno—yn dangos bod tlodi plant yng Nghymru wedi codi. Mae'r ffaith anochel hon yn rhywbeth a ddylai fod yn destun pryder i bob un ohonom ni.
Mewn gwlad gyfoethog, ddatblygedig fel y DU, mae bron i draean o blant yn byw mewn tlodi. Mae'n ystadegyn sobreiddiol ac yn gondemniad trist o'r anghydraddoldeb sydd wedi cael cyfle i wreiddio ar draws y DU dros y degawd diwethaf. Nid oes amheuaeth bod tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU dros y degawd diwethaf. Degawd o doriadau cyni sydd wedi lleihau'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a degawd o doriadau lles creulon sydd wedi gweddnewid yr hyn a ddylai fod yn rhwyd ddiogelwch, i fod yn system i gosbi'r rhai sy'n dibynnu ar y wladwriaeth i'w helpu yn ystod adegau anodd. Diwygiadau sydd wedi eithrio'r trydydd plentyn rhag cael cymorth plant, sydd wedi barnu'n anghywir bod pobl anabl a phobl sy'n hirdymor wael yn ddigon iach i weithio, ac wedi creu cyfundrefn sancsiynau sydd wedi gwthio niferoedd anhysbys o bobl i gyflawni hunanladdiad. Diwygiadau sydd wedi gorfodi pobl i dalu am foethusrwydd ystafell wely sbâr a lle mae defnyddio banciau bwyd yn beth arferol i filiynau.
Dirprwy Lywydd, pan fyddwn yn edrych yn fanylach ar yr adroddiad hwn, mae'n dangos, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n uniongyrchol i ddylanwadu ar fywydau teuluoedd a phlant ledled Cymru, bod ein polisïau'n cael effaith gadarnhaol ar achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb. Mae ein cyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng pum pwynt canran—dwywaith y gyfradd yn y DU ers datganoli. Mae nifer yr aelwydydd heb waith yng Nghymru wedi gostwng mwy na 18 y cant. Mae'r gyfradd gyflogaeth yma yng Nghymru bellach yn uwch na'r DU yn gyffredinol, ac mae canran yr oedolion sy'n gweithio heb unrhyw gymwysterau yn gostwng.
Mae'r dystiolaeth yn dangos bod rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth drwy liniaru effaith tlodi, helpu pobl i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith, ac yn darparu cymorth drwy'r cyflog cymdeithasol, gwerth £2,000 y flwyddyn i rai aelwydydd. Ond gyda 29 y cant o blant mewn tlodi yng Nghymru, ni all yr hyn y gallwn ei wneud dim ond lliniaru'r hyn sydd wedi dod yn amcan polisi bwriadol gan y Llywodraeth bresennol a chyn-lywodraethau Ceidwadol y DU i gynyddu anghydraddoldeb ledled y DU.
Mae'r Resolution Foundation, sefydliad annibynnol, wedi rhagamcanu y bydd 37 y cant o blant yn y DU yn byw mewn tlodi erbyn 2022 oherwydd polisïau Llywodraeth y DU. Mae hyn yn uwch nag mewn unrhyw gyfnod arall ers yr ail ryfel byd. Mae hwn yn warthnod ar enw Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ni fyddwn yn rhoi'r gorau i weithio i wella bywydau teuluoedd yng Nghymru, a byddwn yn gwneud popeth a allwn ni i feithrin mwy o gadernid i gefnogi pobl a chymunedau. Gallwn ni, Llywodraeth Cymru, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd hynny sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, ond ni allwn ni ddadwneud yr anghydraddoldeb sylfaenol hwn sy'n cael ei orfodi arnom o'r tu hwnt i'n ffiniau.
Byddwn yn edrych eto ar bopeth yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth—ein gweithgareddau, ein polisïau a'n blaenoriaethau—i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn y cyfnod hwn o ansicrwydd digynsail. Yn rhan o'r gwaith hwn, rydym ni wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gloriannu'r ddadl dros ddatganoli agweddau ar y system fudd-daliadau. Wrth fwrw ymlaen â hyn, byddwn yn edrych ar waith diweddar Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch dyfodol budd-daliadau lles yng Nghymru. Rydym ni eisoes wedi dechrau amlinellu rhai egwyddorion craidd ar gyfer newid, gan gynnwys tosturi, tegwch, urddas a dealltwriaeth, gyda'r nod o fod yn drugarog a rhoi mwy o sylw i'r dinesydd.
Rwy'n arwain adolygiad o'r rhaglenni a'r gwasanaethau yr ydym yn eu hariannu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posib ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio sut yr ydym yn blaenoriaethu ein cyllid i gefnogi rhaglenni yn y dyfodol. Cynhelir yr adolygiad hwn ar y cyd â chynllunio blaenoriaethau ein cyllideb ar gyfer 2020-21 o safbwynt tlodi. Drwy gydol y broses adolygu, byddwn yn sicrhau y bydd lleisiau'r rhai sydd â phrofiad o beth yw byw mewn tlodi, yn cyfrannu at y dewisiadau wrth fwrw ymlaen. Bydd hefyd yn cael ei lywio gan ganfyddiadau ac argymhellion amrywiaeth o randdeiliaid, a thrwy weithio'n agos gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Sefydliad Bevan, y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant a Chwarae Teg.
Byddwn yn ystyried gwaith ymchwil a dadansoddi gan sefydliadau megis y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Oxfam a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys cynigion ar gyfer rhaglen o weithgareddau ar gyfer y dyfodol ac amserlen ar gyfer cyflawni hynny yn seiliedig ar yr argymhellion, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach unwaith y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau yn y gwanwyn.
Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod effaith ein pwerau datganoledig, gyda'i gilydd, yn cyflawni ein blaenoriaeth o fynd i'r afael â thlodi. Gwyddom na fydd hyn yn hawdd. Rwy'n croesawu'r adroddiad cynnydd hwn, er gwaethaf y negeseuon anodd y mae'n eu cynnwys. Mae'n nodi ein cyflawniadau yn ogystal â maint yr her sy'n ein hwynebu o hyd yng Nghymru, ac mae'n dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth. Yn bwysig ddigon, bydd yn feincnod ar gyfer mesur ein hymdrechion o'r newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i fyw bywyd cyfoethocach a chyrraedd ei lawn botensial. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn i'r Cynulliad. Diolch.