Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r comisiynydd plant am ei gwaith diflino ar ran ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Cynulliad yn cytuno â mi fod y Comisiynydd yn chwarae rhan hollbwysig fel hyrwyddwr annibynnol sy'n dadlau dros hawliau a lles plant.
A minnau'n Ddirprwy Weinidog yn arwain gwaith Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd ar hawliau plant, rwy'n croesawu adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant, ei argymhellion pwysig, a'i gwaith craffu hi ar Lywodraeth Cymru. Ac mae'n arbennig o bwysig tynnu sylw at waith y Comisiynydd eleni, gan fod 2019 yn nodi deng mlynedd ar hugain ers sefydlu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yr ydym ni'r Llywodraeth wedi gwneud pob ymdrech i'w nodi. Yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'n cynnydd o ran hawliau plant, gan mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd plant yn 2001. Mabwysiadwyd y Confensiwn gennym yn sail ar gyfer ein gwaith gyda phlant yn 2004, gan ymgorffori hawliau plant mewn cyfraith drwy'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011. Ac mae'r Mesur yn golygu ei bod hi'n ofynnol i bob Gweinidog, yn ôl y gyfraith, ystyried hawliau plant cyn gwneud neu adolygu ein polisïau neu ddeddfwriaeth. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod plant a'u hawliau yn ganolog i bopeth a wnawn, a daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r casgliad yn ddiweddar fod Mesur 2011 wedi arwain at effaith gadarnhaol sylweddol ar bolisi yng Nghymru. Dywedodd:
Nid oes gennym unrhyw amheuon wrth ddod i'r casgliad bod y Mesur wedi cyflawni ei amcan o ymgorffori'r Confensiwn i'r broses o lunio polisïau yng Nghymru.
Un arwydd ymarferol iawn o'n hymrwymiad i hawliau plant yw ein gwaith i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i hawl plentyn i gael ei fagu mewn amgylchedd diogel a meithringar. Credwn nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru o gwbl. Mae erthygl 12 o'r Confensiwn yn pwysleisio pwysigrwydd canolog clywed a chymryd i ystyriaeth safbwyntiau plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021, ac etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Rwy'n gwybod bod y diwygiadau hyn yn cael eu hystyried yn radical gan rai, hyd yn oed yn ddadleuol i rai, ond rwy'n credu bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dangos ein hymrwymiad i hawliau plant drwy wneud cynnydd yn y meysydd hollbwysig hyn.
Gadewch imi droi yn awr yn benodol at adroddiad blynyddol y Comisiynydd ac ymateb y Llywodraeth iddo. Yn adroddiad blynyddol eleni, mae'r Comisiynydd wedi gwneud 14 argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau plant, iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Cyhoeddom ein hymateb i'r adroddiad blynyddol ar 3 Rhagfyr, sy'n nodi ein hymateb cynhwysfawr i bob un o argymhellion y Comisiynydd yn ogystal â'r hyn rydym ni wedi ei wneud neu'n bwriadu ei wneud yn y meysydd hyn.
Mae ein hymrwymiad i hawliau plant, rwy'n credu, yn cael ei ddangos yn glir wrth i Lywodraeth Cymru dderbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, 12 o'r 14 argymhelliad yn adroddiad blynyddol eleni, ac rwy'n credu bod hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd hawliau plant o ddifrif ac yn dangos ein hymrwymiad llwyr i weithio'n agos iawn gyda'r comisiynydd plant.
Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad yn awyddus i drafod yr adroddiad blynyddol a'n hymateb yn fanylach, ond hoffwn dynnu sylw'n fyr at un enghraifft bwysig o'r ffordd rydym ni'n ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion yn yr adroddiad blynyddol. Mae hyn yn y maes hollbwysig o fynd i'r afael â bwlio. Mae hwn yn faes y mae'r comisiynydd plant wedi gwneud llawer o waith gwerthfawr ynddo, ac rwy'n gwybod fod gan lawer o'm cyd-Aelodau yn y Cynulliad ddiddordeb brwd yn y maes hwn. Mae argymhelliad y comisiynydd plant yn y maes hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn cadw cofnod o bob digwyddiad a'r math o fwlio a gofnodir. Hoffai'r Comisiynydd weld pob ysgol yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio, monitro a gwerthuso eu gwaith gwrth-fwlio ataliol ac ymatebol.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Ar 6 Tachwedd eleni, 2019, cyhoeddwyd canllawiau statudol gwrth-fwlio newydd, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', i helpu ysgolion i ymdrin â bwlio. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r disgwyliad y bydd ysgolion yn cofnodi'r holl achosion o fwlio, gan amlinellu'r mathau penodol o fwlio a'u bod yn monitro prosesau'n rheolaidd ac yn dadansoddi data yn rhan o'u hunanwerthusiad. Mae'r canllawiau'n nodi'n glir y dylai ysgolion ymateb i dueddiadau penodol a materion sy'n codi mewn ffordd gyflym ac effeithiol, mewn ymgynghoriad â disgyblion a'u rhieni/gofalwyr.
Rwy'n credu mai gyda diwygiadau ymarferol fel hyn a'r lleill yn ein hymateb y byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at iechyd, hapusrwydd a diogelwch ein plant i gyd, oherwydd dyna eu hawl nhw a'n cyfrifoldeb ni.
Lle mae gennym y grymoedd i gyflawni newid, byddwn yn gweithredu er budd hawliau plant. Rhaid inni gydnabod, fodd bynnag, fod penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn effeithio'n ddifrifol ar fywydau plant yma yng Nghymru, a chredaf fod hynny wedi ei ddangos yn glir yn y ddadl a gawsom ni o'r blaen—